Morgannwg 354-6 yn erbyn Sir Gaerwrangon

Marnus Labuschagne Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Marnus Labuschagne oedd un o sêr Morgannwg ddydd Sul

Roedd yna diwrnod llawn o griced yn stadiwm Gerddi Soffia ddydd Sul ar ddiwrnod cyntaf gêm Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd rhwng Morgannwg a Sir Gaerwrangon.

Marnus Labushchagne (106) a David Lloyd (97) oedd sêr Morgannwg wrth i'r ymwelwyr alw'r tîm cartref i'r llain gyntaf.

Erbyn diwedd y dydd roedd y tîm cartref yn 354-6 - hynny wedi i bedair wiced gwympo am y 61 rhediad olaf wedi i Brett D'Olivera gael cyfnod cryf o fowlio a chipio pedair wiced am 63 rhediad mewn 20 pelawd.

Mae Morgannwg ar frig y tabl ar hyn o bryd ac yn parhau yn ddiguro.