'Cwmnïau uncorn Cymreig yn bosib gyda buddsoddiad'

Dylan Jones-Evans
Image caption Mae angen denu "buddsoddiad enfawr" er mwyn datblygu cwmnïau uncorn, yn ôl Dylan Jones-Evans

Gall Cymru ddatblygu busnesau 'uncorn' pe bai'n llwyddo i ddenu talentau digidol a buddsoddiad digonol, yn ôl arbenigwr busnes.

Cwmnïau preifat ym maes technoleg sydd ag amcan werth o dros $1b yw busnesau uncorn.

Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans y byddai cwmnïau uncorn yn helpu datblygu delwedd Cymru fel rhywle y gall busnesau dyfu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n canolbwyntio ar "greu'r amgylchiadau delfrydol i alluogi busnesau o bob math i ddatblygu".

Credai'r Athro Jones-Evans, darlithydd mentergarwch ym Mhrifysgol De Cymru, bod denu arian a sgiliau yn her fawr i "economïau ymylol" fel Cymru.

"Mae Llundain yn boblogaidd iawn ymysg cwmnïau digidol... a gan fod gymaint o'r cwmnïau mwyaf fel Google a Microsoft yn mynd yno, maen nhw'n gallu denu'r unigolion hynny sydd â'r gallu i ddechrau busnesau o'r fath," meddai.

Ond nodai fod Caerdydd wedi cael ei restru gan Tech Nation fel rhywle all ddatblygu i fod yn hafan i gwmnïau digidol yn y dyfodol.

"Ar hyn o bryd, efallai bod tri neu bedwar o gwmnïau yng Nghymru, lle os, ac mae hwn yn os mawr, fod popeth yn mynd o'u plaid y gallan nhw ddatblygu i fod yn gwmnïau uncorn yn y dyfodol."

'Angen buddsoddiad enfawr'

Ychwanegodd yr Athro Jones-Evans bod angen denu "buddsoddiad enfawr" ac "unigolion hynod dalentog yn y maes" os am droi busnesau o safon ryngwladol i fod yn gwmnïau uncorn.

"Ni all Cymru wneud hyn ar ben ei hun, mae'n rhaid cael polisi mewnfudo sydd yn targedu'r fath yma o bobl. Dyna be mae pob buddsoddwr neu entrepreneur yn ei ddweud. Rydyn ni angen y talent."

"Yr ail beth yw cyllid... dwi'n meddwl fod gan sefydliadau fel y Banc Busnes Prydeinig rôl i'w chwarae, drwy edrych ar fuddsoddi mewn llefydd fel Cymru, Gogledd Iwerddon a gogledd ddwyrain Lloegr yn hytrach na chanolbwyntio yn ormodol ar y de ddwyrain.

"Mae gennym ni Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi ei sefydlu ers 18 mis... ond pan mae angen ecwiti mawr neu fuddsoddiad sylweddol dyw hynny ddim ar gael yng Nghymru."

Image caption Dywedodd Ken Skates y dylai Cymru fod yn falch o'r "sgiliau sy'n cael eu denu a'u datblygu yma"

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: "Mae Cymru'n gartref i rai o'r cwmnïau fwyaf dyfeisgar ac uchel eu parch yn y byd a dylen ni fod yn falch iawn o'r amgylchedd fusnes sydd yma, a'r sgiliau yr ydym ni'n parhau i'w denu a'u datblygu.

"Rydyn ni'n mynd yn groes i'r graen hefyd, gyda'r grŵp ymchwil, Beauhurst yn dweud mai Cymru oedd â'r nifer fwyaf o fuddsoddiadau ar gofnod dros y flwyddyn ddiwethaf, tra bod cytundebau ecwiti wedi lleihau ar hyd gweddill y DU.

"Wnawn ni ddim ymddiheuro am ddefnyddio ein cynllun gweithredu ar yr economi i ffocysu ar greu'r amgylchiadau delfrydol i alluogi busnesau o bob math i ddatblygu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod nhw wedi buddsoddi £50m wrth gefnogi gwaith ymchwil yng Nghymru, tra bod y Banc Busnes Prydeinig yn cefnogi bron i 3,000 o fusnesau Cymreig am gost o tua £341m.

Bydd rhaglen Sunday Politics Wales ymlaen ar BBC One Wales am 11:00 ar 30 Mehefin ac yna ar yr iPlayer.

Straeon perthnasol