Ymateb cymysg petae trydydd arwisgiad
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ymateb cymysg ynghylch trydydd arwisgiad yng Nghaernarfon

28 Mehefin 2019 Diweddarwyd 21:55 BST

Dydd Llun bydd hi'n hanner canrif ers arwisgiad y Tywysog Charles yng nghastell Caernarfon, ac mae rhai am weld arwisgiad arall os daw ei fab, William yn Dywysog Cymru.

Yn ôl maer y dref, fe fyddai arwisgiad fel yr un yn 1969 o fudd mawr i economi Caernarfon a thu hwnt.

Ond sut ymateb fyddai yna i drydydd arwisgiad yn nhre'r Cofis?

Dyma adroddiad Elin Gwilym.