Archdderwydd newydd yn cyhoeddi Prifwyl Ceredigion 2020

Myrddin ap Dafydd
Image caption Mae Myrddin ap Dafydd (canol) wedi ennill y Gadair ddwywaith - yn 1990 a 2002

Mae'r hen draddodiad o gyhoeddi'r Eisteddfod Genedlaethol yn parhau, wrth i seremoni Prifwyl 2020 gael ei chynnal yng Ngheredigion ddydd Sadwrn.

Roedd dros 1,000 o bobl yn y seremoni yn Aberteifi, lle bu'r Archdderwydd newydd hefyd yn cymryd yr awenau'n swyddogol.

Ar gyrion Tregaron fydd yr Eisteddfod yn 2020, a hynny rhwng 1-8 Awst.

Yn ôl y traddodiad rhaid cynnal y seremoni o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn dechrau'r Eisteddfod.

Er i'r Eisteddfod gyhoeddi bod modd i ddynion yn ogystal â menywod ymgeisio i fod yn gyflwynydd y Flodeuged a chyflwynydd y Corn Hirlas yn y prif seremonïau eleni, ni chafodd dyn ei ddewis.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod bod un llanc wedi ymgeisio i gyflwyno'r flodeuged, ac er iddo gyrraedd yr ail rownd ni gafodd ei ddewis.

Yn yr un modd roedd un bachgen wedi ymgeisio i gymryd rhan yn y Ddawns Flodau, ond ni gafodd ei ddewis yn y pendraw.

Dywedodd Christine James, cofiadur yr Orsedd: "Mae hynny 'chydig yn siomedig, bo' ni wedi penderfynu symud ymlaen ac agor y drysau.

"Mae bod yn gyfartal, a bod yn gynhwysol yn rhan o agenda'r Eisteddfod, ond yn ara' deg mae symud ymlaen hefyd. Fe fydd yr un gwahoddiad yn cael ei gynnig y flwyddyn nesaf hefyd," meddai.

Image caption Roedd gorymdaith arbennig i nodi dechrau'r seremoni am 10:15

Hen draddodiad 'gwych'

Dywedodd yr Archdderwydd nesaf, Myrddin ap Dafydd bod hanes seremoni'r cyhoeddi yn deillio'n ôl i'r Eisteddfod gyntaf sydd ar gofnod.

"Yr Arglwydd Rhys, yn Aberteifi, ac mi gynhaliodd o'r Eisteddfod gyntaf ar ŵyl Nadolig yn 1176, ond mi gyhoeddodd o flwyddyn a diwrnod cynt," meddai.

Dywedodd bod cyfeiriad i'r arfer yn stori Pwyll yn y Mabinogi, ac felly bod "rhywbeth hanesyddol iawn, iawn" ynghlwm â'r drefn.

"Cafodd Steddfod Aberteifi 1176 ei chyhoeddi ymhob llys yng Nghymru, ac ymhellach draw yn Iwerddon, yn Yr Alban, yn Cumbria... ac mae 'na rai yn meddwl mewn llysoedd ar dir mawr Ewrop hefyd," meddai.

"Felly mae'n hen draddodiad ac mae'n wych iawn i'w wneud o."

Image caption Y Llywydd, Elin Jones yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2020

Yn y seremoni fe fydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones, yn cyflwyno'r copi cyntaf o'r Rhestr Testunau - canlyniad gwaith trefnu sydd eisoes wedi dechrau yn yr ardal.

"Mae pawb sy'n cyfrannu at y Steddfod yng Ngheredigion yn cyfrannu mor hwylus tuag at bopeth ac felly does dim angen arweiniad arnyn nhw - mae popeth yn digwydd mor naturiol yma!" meddai.

"Mae pawb wedi bwrw ati gyda brwdfrydedd i wneud y gwaith sydd ei angen yn ystod y misoedd cychwynnol yma o drefnu'r Eisteddfod i Geredigion."

Ychwanegodd: "Ni'n torri pob stereoteip y Cardi oherwydd ry'n ni'n codi arian fel y gwynt yma... ac ry' ni'n cael hwyl anhygoel wrth wneud hynny."

Yn 1992 fuodd yr Eisteddfod yng Ngheredigion ddiwethaf, a dywedodd Ms Jones bod "cyffro mawr" yn deillio o'r ffaith bod yr ardal wedi cael "hoe hir" o lwyfannu'r Brifwyl.

'Amddiffyn popeth Cymraeg a Chymreig'

Cyn cymryd ei le fel Archdderwydd, dywedodd Mr ap Dafydd ei fod yn edrych ymlaen "yn arw" at ddechrau'n swyddogol.

"Mi fydd yn braf iawn cael cyfle i wobrwyo ac anrhydeddu doniau a chymwynaswyr mawr ein diwylliant ni," meddai.

"Mae'r swydd hefyd yn ymwneud â chryfhau, ymestyn ac amddiffyn popeth Cymraeg a Chymreig.

"Yn y cyfnod hwn mae'n golygu gwrthsefyll y tueddiadau cul, ynysig sy'n dod o gyfeiriad Llundain a chreu cyfeillion newydd i'n diwylliant mewn gwledydd eraill."

Parhau gyda'r thema wleidyddol wnaeth Mr ap Dafydd yn ei araith fore Sadwrn wrth iddo feirniadu rhai o bolisïau ac agweddau Llywodraeth San Steffan.

"Mae wal Cofio Tryweryn yma yng Ngheredigion wedi gwneud dau beth inni yn ddiweddar - mae wedi dangos fod bygythiad y bwystfil sydd am ddileu'n cof ni yn fyw ac yn afiach o hyd," meddai.

"Mae hefyd wedi dangos fod gennon ni bobl ifanc y gallwn ni ddibynnu arnyn nhw i ailgodi waliau ac ailbeintio'r geiriau. Maen nhw'n gwybod be ydi gwerth y cof, ac yn gwybod bod yn rhaid i'r cof ysgogi gweithredoedd."

Ychwanegodd: "Rhaid inni wybod ein hanes a rhaid inni hefyd - â'n dwylo ein hunain - lunio ein dyfodol. Mae'r cof yn ein harwain at y cyfrifoldeb hwnnw."

Straeon perthnasol