Angen denu twristiaid i'r Rhondda
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Angen ymgyrch farchnata i ddenu twristiaid i'r Rhondda'

27 Mehefin 2019 Diweddarwyd 21:40 BST

Mae angen gwneud mwy i ddenu twristiaid at Gymoedd y Rhondda, yn ôl rhai o drigolion yr ardal.

Mae Newyddion 9 wedi clywed gan rhai o fusnesau lleol yn Nhreorci, sy'n galw ar Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar ymgyrch farchnata i'w gwneud yn fan ar gyfer ymwelwyr.

Yn ol Llywodraeth Cymru mae angen helpu cymunedau i fanteisio ar yr adnoddau naturiol a'r dreftadaeth sy'n rhan o ddiwylliant yr ardal.

Yr ateb, yn ôl y Cynghorydd Elyn Stephen, ydy marchnata'r Rhondda fel rhywle i ddod.