CPD Caerdydd yn arwyddo tri chwaraewr newydd

Will Vaulks, Joe Day, Curtis Nelson Image copyright Getty Images
Image caption Will Vaulks, Joe Day a Curtis Nelson

Mae CPD Caerdydd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo tri chwaraewr newydd, gan gynnwys chwaraewr canol-cae Cymru, Will Vaulks.

Mae Vaulks, 25, yn ymuno â'r Adar Gleision o Rotherham am ffi sydd heb ei ddatgelu, ond credir ei fod tua £2.1m.

Mae'r chwaraewr canol cae, sydd wedi chwarae tair gwaith dros Gymru, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb.

Yn ogystal mae'r golwr Joe Day, 28, wedi ymuno am ddim o Gasnewydd tra bod yr amddiffynnwr canol Curtis Nelson, 26, wedi arwyddo ar ôl i'w gytundeb ag Oxford United ddod i ben.

Straeon perthnasol