Cloddio am olion dynoliaeth mewn ogof yn Nhremeirchion

Archeolegwyr wrth eu gwaith

Mae archeolegwyr wedi ailgychwyn cloddio ar safle yn Sir Ddinbych allai ddatgelu cyfrinachau am hanes cynnar dynoliaeth.

Mae'r ogof yn un o'r llefydd prin ym Mhrydain lle mae olion o bresenoldeb homo sapiens a'r dyn Neanderthal ochr yn ochr â'i gilydd.

Bwriad y gwaith yw edrych ar rannau o ogof Ffynnon Beuno, yn Nhremeirchion, sydd heb gael sylw hyd yma.

Yn ôl Dr Rob Dinnis, sy'n arwain y prosiect, yr uchelgais yw darganfod tystiolaeth allai egluro mwy am y cyfnod cyn yr Oes Iâ diwethaf, rhwng 60,000 a 30,000 o flynyddoedd yn ôl.

Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn yr 1880au, ac roedd 'na gloddfa yno mor ddiweddar â phum mlynedd yn ôl.

Image caption Mae arteffactau fel y rhai yma - dannedd udfil (hyena) a chefyll gwyllt (dde) - eisoes wedi eu darganfod ar y safle

Dros y blynyddoedd mae nifer o arteffactau oedd yn perthyn i'r homo sapiens cynnar a'r Neanderthal wedi cael eu canfod, yn ogystal ag esgyrn a dannedd anifeiliaid fel ceirw, mamothiaid, llewod ac udfilod (hyena).

Yn bennaf, daeth i'r casgliad bod na ddynoliaeth wedi byw yn yr ogof cyn Oes yr Iâ.

'Dod o hyd i dystiolaeth well'

Gobaith Dr Dinnis yw cael "tystiolaeth archeolegol" o'r dyn cynnar a'r Neanderthal.

Image caption Dr Dinnis (dde) yn trafod y gwaith gyda pherchennog y safle, Jane Marsh

"Rydan ni'n gwybod ein bod ni'n cloddio yn y lle cywir, mewn cronfeydd lle allwn ni ddisgwyl dod o hyd i dystiolaeth o bresenoldeb y Neanderthal hwyr neu'r homo sapiens cynnar," meddai.

"Gan fod rhan o'r safle heb ei gloddio, mae 'na bosibilrwydd y gallwn ni ddod o hyd i fwy o dystiolaeth i adeiladu gwell llun o'r cyfnod."

Mae disgwyl i'r cloddio, sy'n dod ag archeolegwyr o brifysgolion ar draws Prydain ynghyd, gymryd tair wythnos.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol