'Mae'n bryd i'r Gymraeg fod yn iaith technoleg'

Ap Common Voice
Image caption Cafodd y Gymraeg ei hychwanegu i Common Voice yn 2018 yn dilyn cydweithrediad a Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor

Mae ieithydd o Brifysgol Bangor wedi dweud fod datblygu technoleg iaith yn hanfodol er mwyn gwarchod dyfodol y Gymraeg.

Mae hi'n ddyletswydd ar y llywodraeth i "ymrwymo i gefnogi technoleg iaith os ydym am gyrraedd miliwn o siaradwyr", yn ôl Dr Peredur Webb-Davies.

Daw'r sylwadau wrth i Weinidog y Gymraeg lansio ymgyrch yn annog siaradwyr Cymraeg i recordio eu hunain yn siarad ar feddalwedd Common Voice.

Bydd y data a gasglwyd o'r ap - sy'n cael ei redeg gan Mozilla - yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu technoleg adnabod lleferydd yn y Gymraeg.

Ers dyfodiad teclynnau adnabod llais fel Alexa a Siri, mae rhai arbenigwyr iaith wedi lleisio pryder dros yr effaith y gallan nhw ei gael ar y Gymraeg.

Un ffordd o atal dirywiad yn nefnydd yr iaith, yn ôl Dr Webb-Davies, yw darparu'r teclynnau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Image caption Dywedodd Dr Peredur Webb-Davies bod cael digon o ddata yn her

"Mae angen cynyddu'r cyfleoedd sydd gennym ni i ddefnyddio'r iaith, er mwyn gwyrdroi'r shifft iaith - hynny yw, pan fydd pobl yn symud o ddefnyddio'r Gymraeg i'r Saesneg," meddai.

"'Da ni wedi llwyddo i drawsnewid y Gymraeg o fod yn iaith gyfyngedig y cartref i fod yn iaith gyhoeddus, a nawr yw'r cyfle i'w gwneud hi'n iaith dechnoleg."

Eglurodd mai un o'r heriau sy'n wynebu technoleg iaith Gymraeg yw sicrhau bod digon o ddata sy'n gyfarwydd â gwahanol acenion a ffurfiau gramadegol.

"Mae angen i'r feddalwedd Gymraeg ddeall treigliadau - a rhaid cofio, dydi pob siaradwr Cymraeg ddim yn treiglo'r un ffordd," meddai.

"Mae newid cod hefyd yn rhywbeth - pan fydd siaradwyr Cymraeg yn defnyddio geiriau Saesneg fel rhan o'r iaith."

Image caption Dywedodd Eluned Morgan bod angen "miloedd o leisiau o bob rhan o Gymru a thu hwnt"

Wrth gefnogi'r ymgyrch, dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan fod "angen sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cymryd ei lle yn y dyfodol".

"Er mwyn gwneud hyn, rydym angen miloedd o leisiau o bob rhan o Gymru a thu hwnt," meddai.

Wrth ymateb i'r galwad am gyfranwyr, dywedodd Mr Webb-Davies bod "digon o siaradwyr Cymraeg" i gasglu'r data.

"Ma' hi [y Gymraeg] mewn sefyllfa lot iachach na lot o ieithoedd eraill y byd," meddai.

Fel rhan o'u strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddi Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg.

Yn ôl y llywodraeth mae'r cynllun yn "cefnogi datblygiadau technolegol Cymraeg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial o'r iaith, gwella cyfieithu â chymorth cyfrifiadur a datblygu technoleg lleferydd Cymraeg".

Straeon perthnasol