Cardiff's Principality Stadium: 20 years in 20 pictures

Mae hi'n ugain mlynedd ers agor y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Stadiwm y Mileniwm oedd yr enw gwreiddiol, ond mae bellach yn cael ei alw'n Stadiwm y Principality yn dilyn cytundeb noddi a ddechreuodd ym mis Ionawr 2016.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae'r stadiwm wedi gweld nifer o olygfeydd hanesyddol, gan ddiddanu'r genedl gyda chwaraeon a cherddoriaeth o bob math., gan gynnwys rhai o artistiaid mwya'r byd. Dyma gasgliad o 20 llun i nodi'r 20 mlynedd.

//

It's 20 years since the opening of the national stadium in Cardiff. Originally named the Millennium Stadium, it's known today as the Principality Stadium following a sponsorship deal which came into effect in January 2016.

Over the past two decades the stadium has been witness to historical events, entertaining the nation with all kinds of different sport and entertainment, including some of the biggest acts in the world. Here's a collection of 20 pictures to mark the 20th anniversary.

line
cymru Image copyright Mirrorpix
Image caption Y digwyddiad cyntaf yn y stadiwm, gêm rygbi rhwng Cymru a De Affrica. Roedd y stadiwm dal yn cael ei hadeiladu ar y pryd, felly dim ond 27,000 oedd yno i weld y canlyniad hanesyddol, gyda Chymru'n curo'r Springboks am y tro cyntaf erioed o 29-19 - 26 Mehefin, 1999. // The first event at the stadium, an international match between Wales and South Africa. There were only 27,000 spectators as the stadium was still being built. Wales beat the Springboks for the first time ever, 29-19 - 26 June, 1999.
tina turner Image copyright Mirrorpix
Image caption Tina Turner yn perfformio yn y stadiwm fel rhan o'i thaith 'Twenty Four Seven Tour' - 9 Gorffennaf, 2000. // Legendary singer Tina Turner performing on her Twenty Four Seven Tour - 9 July, 2000
simon davies Image copyright Shaun Botterill
Image caption Un o'r canlyniadau mwyaf yn hanes pêl-droed y genedl, Cymru 2-1 Yr Eidal. Roedd tîm Yr Eidal y diwrnod hwnnw yn cynnwys rhai o fawrion y gêm; Gianluigi Buffon, Alessandro Del Piero ac Andrea Pirlo. Simon Davies a Craig Bellamy oedd y sgorwyr i Gymru - 16 Hydref, 2002. // One of the most famous Welsh football victories, beating Italy 2-1. Italy had a star-studded team with the likes of Gianluigi Buffon, Alessandro Del Piero and Andrea Pirlo. Simon Davies and Craig Bellamy were the scorers for Wales - 16 October 2002.
clapton Image copyright Matt Cardy
Image caption Yn dilyn y Tsunami anferth a laddodd bron i chwarter miliwn o bobl yn Rhagfyr 2004, roedd cyngerdd arbennig yn y stadiwm i godi arian i elusen. Dyma Jools Holland ac Eric Clapton yn perfformio ar y llwyfan - 22 Ionawr, 2005. // Following the 2004 Boxing Day Tsunami there was a concert held in aid of charity. Here's Jools Holland and Eric Clapton on stage - 22 January, 2005.
Henson Image copyright David Rogers
Image caption Gavin Henson yn llwyddiannus gyda chic gosb hwyr i roi buddugoliaeth i Gymru yn erbyn Lloegr o 11-9 - 5 Chwefror, 2005. Wedi'r gêm yma aeth Cymru ymlaen i ennill y Gamp Lawn, y cyntaf ers 1978. // Gavin Henson with his late penalty to break English hearts on 5 February, 2005. Wales won the game 11-9 and went on to win the Grand Slam for the first time since 1978.
rally Image copyright Bryn Lennon
Image caption Colin McRae yn rasio yn ei gar Skoda yn ystod ail ddiwrnod Rali Cymru GB - 17 Medi, 2005. // Colin McRae racing in his Skoda in the Millennium Stadium stage of the Wales Rally GB, 17 September 2005.
Gerrard Image copyright Anwar Hussein Collection
Image caption 'Ffeinal Steven Gerrard'. Capten Lerpwl yn codi Cwpan FA Lloegr wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn West Ham - 13 Mai, 2006. Cafodd chwe rownd derfynol Cwpan FA Lloegr eu chwarae yn y stadiwm tra roedd Wembley yn cael ei ailadeiladu. // "The Steven Gerrard final". Liverpool captain Steven Gerrard lifting the FA Cup following his side's victory over West Ham - 13 May, 2006. There were six FA Cup finals played in Cardiff whilst Wembley was being redeveloped.
france Image copyright Christian Liewig - Corbis
Image caption Chwaraewyr Ffrainc yn dathlu buddugoliaeth 20-18 yn erbyn y Crysau Duon yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd - 6 Hydref, 2007. // France rugby players celebrating a memorable victory over the All Blacks in the 2007 Rugby World Cup quarter finals - 6 October, 2007.
calzaghe Image copyright John Gichigi
Image caption Joe Calzaghe yn llorio Mikkel Kessler mewn gornest am bencampwriaeth uwch-ganol y byd - 3 Tachwedd, 2007. // Joe Calzaghe becoming undisputed super middle weight champion by beating Mikkel Kessler - 3 November, 2007.
2008 Image copyright Harry Scott
Image caption Bruce Springsteen a Steven Van Zandt yn perfformio - 14 Mehefin, 2008. Fe berfformiodd Springsteen yno hefyd ym mis Gorffennaf 2013. // Bruce Springsteen and Steven Van Zandt performing on stage - 14 June, 2008. Springsteen also played at the stadium in July 2013.
U2 Image copyright Steve Thorne
Image caption Y band Gwyddelig, U2, yn perfformio ar lwyfan yng nghanol y stadiwm - 22 Awst, 2009. // One of the biggest bands in the world, U2 performing on a stage in the middle of the stadium - 22 August, 2009.
bellamy Image copyright AFP
Image caption Roedd sefydlu tîm pêl-droed Olympaidd Prydeinig yn benderfyniad dadleuol i rai, ond fe chwaraeodd bump o chwaraewyr Cymru gyda'r garfan. Dyma Craig Bellamy yn y gêm yn erbyn Uruguay - 1 Awst, 2012. // Fielding a Team GB football side for the 2012 Olympics was a controversial decision, but five Welsh players were in action for the team. Here's Craig Bellamy in action against Uruguay - 1 August, 2012.
2013 Image copyright Stu Forster
Image caption Wedi buddugoliaeth 30-3 yn erbyn Lloegr fe enillodd Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013, a hynny wedi iddyn nhw ennill y Gamp Lawn y flwyddyn flaenorol - 16 Mawrth, 2013. Dyma'r dathliadau, gyda'r capten a oedd wedi ei anafu, Ryan Jones, yn codi'r tlws gyda'r capten ar y diwrnod, Gethin Jenkins. // Wales beat England 30-3 to win the 2013 Six Nations, having won the Grand Slam the previous year. Here, the injured captain, Ryan Jones, and match-day captain Gethin Jenkins lift the trophy. 16 March, 2013.
league Image copyright Michael Steele
Image caption Nid rygbi'r undeb yn unig sydd wedi ei chwarae yn y stadiwm, ond rygbi'r gynghrair hefyd. Dyma Elliot Kear yn cynrychioli Cymru yn erbyn Yr Eidal yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd - 26 Hydref, 2013. // Union isn't the only rugby code played at the stadium. Here's Elliot Kear representing Wales against Italy in the 2013 Rugby League World Cup - 26 October, 2013
Toulon Image copyright Sportsfile
Image caption Jonny Wilkinson yn codi Cwpan Ewrop wedi buddugoliaeth Toulon yn erbyn Saracens - 24 Mai 2014. Mae rownd derfynol Cwpan Heineken wedi ei chynnal yn y stadiwm bum gwaith. // Jonny Wilkinson lifting the European Cup following Toulon's victory over Saracens - 24 May, 2014. The Heineken Cup Final has been staged at the stadium on five occasions.
Bale Image copyright Angel Martinez
Image caption Gareth Bale yn codi Cwpan Cynghrair y Pencampwyr yn ei dref enedigol - 3 Mehefin, 2017. Enillodd Real Madrid 4-1 yn erbyn Juventus i godi'r tlws am y 11eg tro yn eu hanes. // Gareth Bale lifting the UEFA Champions League trophy in his hometown - 3 June, 2017. Real Madrid beat Juventus 4-1 to win the trophy for the 11th time in their history.
speedway Image copyright Steve Feeney
Image caption Bartosz Zmarzlik yn arwain y ras yng nghymal Caerdydd o'r FIM Speedway Grand Prix - 22 Gorffennaf, 2017. // Bartosz Zmarzlik leading the way on a bend during an FIM Speedway Grand Prix at the stadium - 22 July, 2017.
joshua Image copyright Richard Heathcote
Image caption Anthony Joshua yn glanio ergyd ar ên Joseph Parker mewn gornest focsio pwysau trwm - 31 Mawrth, 2018. Hon oedd yr ail ornest i Joshua ei chael yng Nghaerdydd - roedd y cyntaf yn erbyn Carlos Takam yn Hydref 2017. // Anthony Joshua landing with a solid left on Joseph Parker's chin in a world heavyweight championship fight - 31 March, 2018. This was his second fight at the stadium, having beaten Carlos Takam there in October 2017.
beyonce Image copyright Kevin Mazur
Image caption Jay-Z a Beyoncé yn perfformio yn ystod perfformiad cyntaf eu taith fyd-eang 'On the Run II' - 6 Mehefin, 2018. // Jay-Z and Beyoncé kicking off their world tour On the Run II in Cardiff - 6 June, 2018.
stones Image copyright Anwar Hussein
Image caption The Rolling Stones; Ronnie Wood, Mick Jagger, Charlie Watts a Keith Richards yn diddanu degau o filoedd gyda'u cerddoriaeth - 15 Mehefin, 2018. Dyma'r ail dro i'r Stones berfformio yn y stadiwm - y tro cyntaf oedd yn Awst 2006. // Legendary rockers the Rolling Stones performing on 15 June, 2018. This was their second time at the stadium, having also played there in August 2006.
grand slam Image copyright Stu Forster
Image caption Dathlu Camp Lawn rhif 12! Capten Cymru, Alun Wyn Jones yn codi tlws y Chwe Gwlad wedi buddugoliaeth 25-7 yn erbyn Iwerddon - 16 Mawrth, 2019. // Wales winning their 12th Six Nations Grand Slam title having won 25-7 against Ireland - 16 March, 2019.
line

Hefyd o ddiddordeb: