Cyhoeddi enw dynes gafodd ei chanfod yn farw yn Abertawe

Gemma Palmer Image copyright Llun teulu
Image caption Dywedodd teulu Gemma Palmer y bydd hi'n cael ei cholli

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dynes gafodd ei chanfod yn farw yn Abertawe dros y penwythnos.

Cafodd corff Gemma Palmer, 30, ei ganfod gan yr heddlu wedi iddyn nhw gael eu galw i Heol Llangyfelach am tua 20:15 nos Sadwrn.

Dywedodd ei theulu eu bod wedi'u tristau gan ei marwolaeth ac y bydd hi'n cael ei cholli.

Fe gafodd dyn 49 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth ac mae bellach wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mae'r heddlu'n parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i'w ffonio ar 101.

Pynciau Cysylltiedig