Bowlwyr Sir Gaerloyw yn drech na batwyr Morgannwg

Ryan Higgins Image copyright Rex Features
Image caption Llwyddodd Ryan Higgins i gymryd tair wiced i Sir Gaerloyw

Bydd Sir Gaerloyw yn dechrau'r diwrnod olaf ar 41-2 - mantais o 67 rhediad dros Forgannwg - yn dilyn diwrnod arall gafodd ei effeithio gan law.

Llwyddodd i Josh Shaw, Ryan Higgins a David Payne gymryd tair wiced yr un i Sir Gaerloyw wrth i'r Cymry osod sgôr batiad cyntaf o 287.

Roedd hyn yn ymateb i sgôr o 313 i'r tîm cartref.

Doedd dim modd chwarae nes y prynhawn ar y trydydd diwrnod ddydd Mawrth oherwydd y tywydd, ac unwaith eto i Forgannwg gêm gyfartal yw'r canlyniad mwyaf tebygol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol