Hanner marathon Abertawe: Cyhoeddi enw dyn fu farw

Hanner marathon Abertawe Image copyright Swansea Bay TV
Image caption Dywedodd y trefnwyr eu bod yn disgwyl i thua 10,000 o redwyr gymryd rhan yn y ras

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi enw myfyriwr fu farw yn ystod hanner marathon yn y ddinas dros y penwythnos.

Roedd Wilsern Ong, yn wreiddiol o Maleisia, yn astudio cwrs Peirianneg Amgylcheddol yn y brifysgol.

Bu'n rhaid i Mr Ong gael cymorth wedi iddo fynd i drafferthion ger y llinell derfyn ar Stryd Adelaide am 13:20 brynhawn Sul.

Er iddo gael triniaeth yn y fan a'r lle gan wirfoddolwyr Gwasanaeth Sant Ioan, bu farw yn Ysbyty Treforys yn ddiweddarach.

Dywedodd y brifysgol mewn datganiad bod y "newyddion trist wedi eu syfrdanu" a'u bod yn cydymdeimlo gyda'i ffrindiau a'i deulu.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol