Siarad dwy dafodiaith

Gog neu hwntw? Oes rhaid dewis?

Nid yn ôl y nifer o siaradwyr Cymraeg sy'n siarad y ddwy dafodiaith. Mae dwy-dafodieithrwydd yn dod yn fwy cyffredin wrth i fwy o Gymry Cymraeg symud o ardal i ardal, gan gaffael ar ddwy dafodiaith.

Image copyright Gwenllian Glyn
Image caption Gwenllian gyda'i gŵr Ynyr a'r plant Deio a Casi

Cafodd y gyflwynwraig Gwenllian Glyn ei magu yng Nghaerdydd gan rieni o'r gogledd. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, y cerddor Ynyr Roberts a'u plant.

Mi ddechreuais i newid tafodiaith pan es i i'r ysgol gynradd. Doedd hi ddim yn naturiol i blentyn mewn ysgol yng Nghaerdydd i siarad efo acen ogleddol, a doeddwn i ddim eisiau bod yn wahanol i blant eraill.

Roedd plant yn gallu bod yn eitha' cas a thynnu coes a dweud 'pam ti'n siarad fel 'na?' Nes i ddim penderfynu mod i'n mynd i ddechrau siarad 'hwntw', mi 'na'th o ddigwydd yn naturiol.

Image copyright Gwenllian Glyn
Image caption Gwenllian yn saith oed, yn ymarfer ei llefaru

Yn yr ysgol, dwi'n cofio athrawes yn dweud o flaen yr ysgol gyfan fy mod i a fy mrawd yn siarad yn wahanol. Nes i addasu fy iaith a fy acen i fod fel pawb arall. Pan o'n i tua saith oed, o'n i'n gallu newid tafodiaith yn hollol naturiol - acen gog efo fy nheulu ac acen ddeheuol yn yr ysgol. Roeddwn i'n cystadlu yn yr Eisteddfod bob blwyddyn, a gan mai Mam oedd yn fy nysgu i, roeddwn i'n llefaru mewn acen ogleddol.

O'n i'n ymwybodol iawn fy mod i'n newid fy acen, ac roedd hynny'n gallu bod yn deimlad annifyr. Ond pan es i i'r brifysgol yn Aber, roeddwn i'n gweld bod newid acen yn gallu bod yn fanteisiol. Roedd hi'n hawdd cymdeithasu efo pobl o bob ardal.

Ond o'n i'n ei gweld hi'n anodd i benderfynu pa acen i'w defnyddio pan o'n i mewn grŵp cymysg o gogs a hwntws! Yn aml iawn, mi fyswn i'n troi nôl a mlaen o un dafodiaith i'r llall.

Os ydi person o'r gogledd, 'na'i siarad 'gog' efo nhw. Os ydy'r person o'r de 'na'i siarad 'hwntw'.

Pan ddechreuais i weithio yn stafell newyddion BBC Cymru, roedd yn rhaid i fi ddewis pa dafodiaith i'w defnyddio ar gyfer darlledu er mwyn cael cysondeb. Mi benderfynais i siarad mewn acen ogleddol - sef fy nhafodiaith naturiol i.

Image copyright Gwenllian Glyn
Image caption Gwenllian: 'Mi benderfynais i ddarlledu mewn acen ogleddol - sef fy nhafodiaith naturiol i.'

Erbyn hyn, dwi ddim yn gwneud penderfyniad i droi at tafodiaith benodol. Mae'n digwydd yn naturiol ac - yn wahanol i pan o'n i'n blentyn bach - dydw i ddim yn teimlo'n annifyr pan dwi'n gwneud hynny.

Mae fy mrawd i'n actor (Gruffudd Glyn) ac mi 'na'th o ennill gwobr Richard Burton lle cafodd o'i ganmol am berfformio dau ddarn mewn dwy acen wahanol, yn hollol naturiol.

Fel plentyn roedd pawb yn yr ysgol a'r capel yn fy ngalw i'n 'gog'. Roedd fy nheulu estynedig i yn y gogledd yn fy ngalw i'n southie. Felly doeddwn i ddim yn teimlo bod gen i hunaniaeth gall. O'n i wastad yn teimlo fy mod i'n cael fy nisgrifio fel 'y llall'.

Roedd newid tafodiaith yn gallu bod yn anodd ar adegau - yn enwedig yn yr ysgol ac yn fy arddegau. Am flynyddoedd, o'n i'n teimlo'n 'wahanol'. Ond, erbyn hyn, mae'n rhan ohona i a phwy ydw i. Dwi'n falch o hynny, ac mae'n destun sgwrs!

Mae'r pregethwr a'r cyn-actor Gwyn Elfyn yn byw yn Nhrefach ger Y Tymbl gyda'i wraig. Cafodd ei eni yn y gogledd a'i fagu yn y de gan rieni o'r gogledd.

Gwyn Elfyn

Mae newid tafodiaith yn rhywbeth 'dw i wedi 'neud ers 'mod i'n wyth mlwydd oed, pan symudais o Borthmadog i'r de.

Dechreuais i siarad yn ddeheuol er mwyn i bawb ddeall fi. Wrth i fi dyfu lan a chwarae gyda'n ffrindiau ro'n i'n dysgu'r tafodiaith. Pan o'n i'n mynd nôl i'r tŷ ro'n i'n siarad gog ac mae hwnna'n para nes heddi pan dw i'n siarad â Mam.

Yn hytrach na chymryd lle y tafodiaith arall, ro'n i'n siarad y ddwy dafodiaith mewn gwahanol gyd-destunau.

Mae wedi bod yn grêt fel actor achos mewn sioe radio ti'n cael dau actor am bris un.

Fel oedolyn, yn tŷ Mam neu pan dw i yn y gogledd, dw i'n siarad 'gog'. Mae lot haws i bobl ddeall fi.

Ond bydden i ddim yn siarad yn ogleddol gyda 'ngwraig na'r plant.

Mae'r ddwy dafodiaith yr un mor gryf â'i gilydd ac yn cerdded ochr-yn-ochr. S'dim gwahaniaeth 'da fi p'un dw i'n siarad.

Yn y coleg wrth eistedd rownd y bwrdd, ro'n i'n newid tafodiaith yn dibynnu ar bwy ro'n i'n siarad gyda. Dyw pobl ddim yn gallu credu ac yn gofyn 'sut 'nes di hynny?'.

Mae wedi hwyluso pethe i fi erioed. Fel Cymry ni'n dueddol o fod yn blwyfol ac os ydy pobl yn credu bod ti'n un ohonyn nhw, maen nhw'n bondio gyda ti'n gynt.

Mae tafodieithoedd yn ddiddorol - maen nhw'n cyfoethogi iaith.

Bydde fe'n ddiflas iawn os fydden ni gyd yr un peth.

line

Mae Dr Jonathan Morris yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ac yn arbenigo mewn agweddau sosioieithyddol ar ddwyieithrwydd.

Mae dwy-dafodieithrwydd yn ddiddorol yng nghyd-destun y Gymraeg gan fod llawer o siaradwyr yn symud i ardaloedd newydd, fel arfer i fynd i'r brifysgol neu i weithio. 'Da ni'n sôn am bobl sy'n meddu ar ddwy dafodiaith felly mae'n debyg i ddwyieithrwydd ond fod y person wedi caffael ar ddwy dafodiaith yn hytrach na dwy iaith.

Dydy rhywun ddim yn debygol o gaffael tafodiaith newydd drwy symud i ardal newydd fel oedolyn. Ond, os bydd y person yn aros yn yr ardal newydd ac yn magu teulu, efallai y bydd y plentyn yn caffael dwy dafodiaith.

Mae'r plentyn yn derbyn tafodiaith y rhieni ar yr aelwyd, felly, ond maen nhw hefyd yn caffael tafodiaith y gymuned ehangach.

Er enghraifft, mae nifer o blant mewn ysgol yng Nghaerdydd efo rhieni o'r gogledd ac maen nhw'n switsho. Ond yn ddiddorol mae 'na bobl yn yr un sefyllfa sy' ddim yn switsho - efallai oherwydd nad ydynt yn siarad cymaint o Gymraeg yn y gymuned ehangach.

Mae pobl yn gallu teimlo bod nhw'n perthyn i ddau gymuned sy' fel arfer yn beth positif.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig