Morgannwg yn cyrraedd 187-4 yn erbyn Sir Gaerloyw

Michael Hogan Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe gymerodd Michael Hogan dair wiced i'r ymwelwyr

Fe orffennodd Morgannwg ar 187-4 wrth frwydro'n ôl ar yr ail ddiwrnod yn erbyn Sir Gaerloyw.

Fe lwyddodd Nick Selman i sgorio 73 rhediad, tra bod prif sgoriwr y Bencampwriaeth, Marnus Labuschagne, wedi cyrraedd 56 heb fod allan.

Ar ôl cyrraedd 168-1 ar ddiwedd y diwrnod agoriadol, fe orffennodd Sir Gaerloyw eu batiad cyntaf ar 313 wrth i'w cyfradd rhediadau gwympo'n ddramatig mewn amgylchiadau anodd.

Michael Hogan a Graham Wagg oedd fwyaf effeithiol o ran bowlwyr yr ymwelwyr, gyda'r ddau yn cymryd tair wiced yr un.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol