Bwriad i 'ddyblu'r cyllid' ar gyfer gwasanaethau ieuenctid

Clwb ieuenctid Dyffryn Ardudwy

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd yn dyblu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau pobl ifanc fel rhan o strategaeth newydd.

Mae gwaith ieuenctid yn cynnwys ystod eang o wasanaethau i bobl 11 i 25 oed gan gynnwys clybiau ieuenctid, gweithwyr mewn ysgolion neu gefnogaeth wedi ei dargedu ar gyflogaeth a hyfforddiant er enghraifft.

Mae'r strategaeth yn dilyn rhybudd gan Aelodau Cynulliad yn 2016 am "ddirywiad brawychus" yn y ddarpariaeth.

Daw'r cyhoeddiad yn ystod digwyddiadau i nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid.

Yn ogystal â'r ddarpariaeth gan gynghorau, mae yna nifer fawr o gyrff gwirfoddol yn gweithio gyda phobl ifanc.

Ar ôl i'r clwb ieuenctid lleol gau y llynedd penderfynodd rhai o drigolion Dyffryn Ardudwy yng Ngwynedd godi arian i'w ail-agor.

Cafodd y penderfyniad i gau'r clwb "effaith fawr" ar y gymuned, yn ôl ymgyrchwyr, a'r gobaith nawr yw ail-agor erbyn mis Medi.

Image caption Mae hi'n bwysig cynnig lleoliad diogel i bobl ifanc, yn ôl y cynghorydd cymuned Steffan Chambers

Dywedodd arolygaeth addysg Estyn y llynedd bod gostyngiad amlwg wedi bod yn nifer y clybiau ieuenctid traddodiadol, gyda rhai'n dadlau nad yw'n ddefnydd effeithiol o adnoddau cyhoeddus.

Ond yn Nyffryn Ardudwy mae'r cynghorydd cymuned Steffan Chambers yn mynnu ei bod hi'n bwysig cynnig lleoliad diogel i bobl ifanc gyfarfod mewn ardal wledig fel hon.

Mae Mr Chambers yn un o'r bobl sydd wedi bod yn codi arian i ail-agor y clwb ar ôl i Gyngor Gwynedd ad-drefnu eu gwasanaethau ieuenctid y llynedd.

"Mae'n le iddyn nhw fynd i fwynhau eu hunain, i gymdeithasu 'efo'i gilydd," meddai.

"Mae'n le iddyn nhw gael dysgu mwy am eu cymdeithas nhw ac mae'n le iddyn nhw roi 'nôl i'w cymuned hefyd.

Image caption Mae Meinir Thomas yn dweud bod y "plant i gyd" eisiau gweld y clwb yn dychwelyd

Mae Meinir Thomas yn un o'r rhieni sydd wedi gwirfoddoli i redeg y clwb newydd.

"Da ni'n edrych ar o leia' 20 i 30 o blant," meddai.

"Dwi ddim yn teimlo bod clybiau ieuenctid yn hen ffasiwn o gwbl. Mae'r plant i gyd isio fo 'nôl."

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod model newydd ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid ar draws y sir wedi ei gyflwyno ym Medi 2018.

Yn lle clybiau mwy traddodiadol mewn 39 o gymunedau oedd yn tueddu i fod ar agor rhwng Medi a'r Pasg, dywedodd llefarydd bellach bod "cyfleoedd a phrofiadau apelgar a chyffrous sy'n symud o gymunedau i gymunedau ar draws y sir drwy'r flwyddyn".

Wrth gyhoeddi'r strategaeth a darparu £10m ar gyfer gwasanaethau, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dechrau "pennod newydd, bositif" ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Mae'r cyllid yn cynnwys £2.5m i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc a £3.7m i helpu taclo digartrefedd.

'Diffyg arweiniad'

Ond mae'n dilyn blynyddoedd o bwysau ar gyllidebau, a phryder mewn adroddiad gan Aelodau Cynulliad ynglŷn â diffyg arweiniad gan weinidogion.

Yn 2013/14 roedd tua 20% o'r boblogaeth 11 i 25 oed yn aelodau o wasanaethau ieuenctid cynghorau - roedd hynny wedi gostwng i 16% erbyn 2017/18.

Cwympodd y gwariant ar waith ieuenctid o dros £40m bum mlynedd yn ôl i £32m yn 2017/18.

Image caption Dywedodd Kirsty Williams bod y strategaeth yn amlinellu "dyfodol positif" ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru

Mae'r strategaeth newydd yn cydnabod rhai methiannau wrth gynllunio gwasanaethau ac yn dweud bod penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud oherwydd prinder adnoddau.

Ond mae'n dweud y bydd patrwm ac ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei asesu, ac fe fydd dull gwell ar gyfer ariannu gwasanaethau yn cael ei ddatblygu yn y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, bod y strategaeth yn amlinellu "dyfodol positif" ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

"Rwyf am i Gymru fod yn wlad lle mae pobl ifanc yn ffynnu, yn wlad lle mae ganddyn nhw'r cyfle i fanteisio ar gyfleoedd a phrofiadau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, a fydd yn rhoi mwynhad iddynt ac yn cyfoethogi eu datblygiad personol," meddai.

Straeon perthnasol