Rhybudd melyn am law trwm yn y gogledd fore Mawrth

Tywydd Image copyright Y Swyddfa Dywydd
Image caption Mae disgwyl i'r glaw effeithio ar y mwyafrif o'r gogledd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar gyfer bore dydd Mawrth.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng hanner nos a 12:00, a hynny ar gyfer rhannau helaeth o'r gogledd.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai llifogydd effeithio ar amodau gyrru ac achosi difrod i rai adeiladau.

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gallai rhai gwasanaethau trên a bws wynebu oedi.

Stormydd yn y gogledd-ddwyrain

Daw'r rhybudd diweddaraf i rym wrth i un arall am stormydd o fellt a tharanau ddod i ben.

Roedd y Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai'r stormydd yma achosi llifogydd ac amharu ar drefniadau teithio.

Mae'r rhybudd am stormydd mewn grym yn y gogledd-ddwyrain tan 23:59 ddydd Llun.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol