Cyhoeddi enw dynes 48 oed fu farw ym Mhenparcau

Penparcau
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Rhyd-y-bont toc cyn 21:00 nos Iau

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dynes 48 oed fu farw ym Mhenparcau ger Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd corff Marie Lena Gilmore ei ganfod gan y Gwasanaeth Ambiwlans mewn tŷ yn ardal Rhyd-y-bont toc cyn 21:00 nos Iau.

Dywedodd yr heddlu bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un anesboniadwy a bod yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.

Fe gafodd Michael Parker, 40, ei arestio yn y tŷ nos Iau a'i gyhuddo o dorri gorchymyn atal.

Cafodd ei ddedfrydu ddydd Sadwrn i 16 wythnos o garchar am y drosedd.

Image caption Mae'r heddlu'n trin y farwolaeth fel un anesboniadwy

Dywedodd teulu Ms Gilmore mewn datganiad: "Fel teulu rydym yn anhygoel o drist am ein colled, a bydd Marie yn cael ei cholli gan bawb.

"Rydyn ni eisiau diolch i deulu a ffrindiau am eu cefnogaeth, sydd yn golygu cymaint i'r holl deulu."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol