Hyfforddwr awyr agored i wynebu achos llys arall

Robert Pugh
Image caption Robert Pugh oedd yn arfer rhedeg canolfan awyr agored Storey Arms ar Fannau Brycheiniog

Bydd cyn-bennaeth canolfan awyr agored ar Fannau Brycheiniog yn wynebu achos llys o'r newydd ar ôl i reithgor fethu â dod i benderfyniad.

Mae Robert Pugh, 75, yn wynebu chwe chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ddau fachgen yn yr 80au a 90au.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â'i gyfnod yng nghanolfan awyr agored Storey Arms ar Fannau Brycheiniog.

Bydd yr achos yn digwydd yn Llys y Goron Caerdydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Fe fethodd rheithgor â dod i gasgliad yn dilyn achos a barodd chwe diwrnod yn gynharach ym mis Mehefin.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol