Dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad difrifol ar yr A40

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae un dyn yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr "difrifol ond sefydlog"

Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 ger Caerfyrddin fore Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi hanner nos yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a thractor.

Cafodd dau ddyn, gyrrwr y car ac un teithiwr, eu cludo i'r ysbyty. Mae un o'r dynion yn parhau mewn cyflwr "difrifol ond sefydlog".

Roedd y ffordd rhwng Caerfyrddin a San Clêr ar gau i'r ddau gyfeiriad am rai oriau.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.