Gêm gyfartal i Forgannwg yn Middlesex oherwydd glaw

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Morgannwg yn parhau'n ddiguro yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd eleni yn dilyn gêm gyfartal yn Middlesex oherwydd glaw.

Ychydig iawn o chwarae fu ar y diwrnod olaf ddydd Mercher oherwydd y tywydd, ond bydd Morgannwg yn ddigon hapus gyda'r canlyniad yn dilyn batiad cyntaf da iawn i'r tîm cartref.

Fe wnaeth Morgannwg ennill naw pwynt o'r gêm, tra bod Middlesex wedi sicrhau 12.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn parhau'n ddiguro yn y bencampwriaeth, a hithau'n hanner ffordd trwy'r tymor.

Mae hynny i'r gwrthwyneb yn llwyr i'r tymor diwethaf, pan wnaeth y Cymry golli 10 o'u 14 gêm yn y gystadleuaeth.