Marwolaeth Caerau: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

Cyhoeddwyd
Lon-Yr-Efail, in ElyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth swyddogion sy'n ymchwilio i'r farwolaeth ofyn am fwy o amser i holi'r dyn ddydd Sadwrn

Mae dyn 18 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dros y penwythnos wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd yr heddlu eu galw i Lôn-Yr-Efail, Caerau am tua 20:00 nos Wener yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad domestig.

Bu farw dyn 56 oed er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.

Cafodd y dyn ifanc ei arestio ddydd Sadwrn ar amheuaeth o lofruddio ond mae'r heddlu bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu'r De nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac maen nhw'n apelio am fwy o wybodaeth.

Mae'r ymchwiliad yn parhau.