Glaw yn amharu ar gêm Middlesex a Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
David LloydFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Llwyddodd David Lloyd i gael wiced gynta'r diwrnod i Forgannwg

Ar ddiwrnod cyntaf gêm Morgannwg yn Middlesex yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd mae'r tîm cartref 151-3.

Cyfyngwyd y chwarae i 51 pelawd oherwydd y glaw.

Dewisodd Morgannwg fowlio gyntaf, ond ni fu unhryw chwarae tan ar ôl cinio.

Mae Morgannwg yn ddiguro yn y gemau pedwar diwrnod y tymor hwn, ond mae dau newid i'r tîm gafodd gêm gyfartal uchel iawn ei sgôr yn erbyn Sir Derby.