Darganfyddiad ar safle hanesyddol Bryn Celli Ddu

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Aerial-Cam
Disgrifiad o’r llun,
Mae cloddio wedi digwydd ar y safle dros sawl blwyddyn er mwyn dysgu mwy am ei hanes

Mae arbenigwyr yn cloddio ar safle gerllaw un o henebion pwysicaf Cymru er mwyn datgelu carnedd beddau 4,500 mlwydd oed.

Maen nhw'n gobeithio dysgu mwy am y bedd a'i berthynas gyda siambr gladdu Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn.

Mae'r siambr 5,000 oed wedi ei hunioni gyda llinell yr haul yn gwawrio ar hirddydd haf.

Dywedodd Dr Ffion Reynolds fod y bedd yn dangos fod y safle yn "leoliad arbennig" ganrifoedd wedi i'r siambr wreiddiol gael ei hadeiladu.

Ffynhonnell y llun, Aerial-Cam
Disgrifiad o’r llun,
Mae siambr gladdu Bryn Celli Ddu wedi'i hunioni gyda chodiad yr haul ar hirddydd haf

Cafodd siambr Bryn Celli Ddu ei darganfod gyntaf yn 1865 a'i adfer yn y 1920au.

Ond credir fod y bedd o'r Oes Efydd yn fwy na'i gymydog mwy enwog.

Dywedodd Dr Reynolds o Cadw - corff henebion Llywodraeth Cymru: "Mae'n awgrymu fod pobl yr Oes Efydd yn dychwelyd i'r un lleoliadau a'u cyndeidiau Neolithig, ac yn ychwanegu eu marc eu hunain i'r tirlun."

Yn wir, dywedodd fod y safle cyfan yn ymddangos fel ei fod wedi ei "gysegru i'r cyndeidiau".

Bydd diwrnod agored archeolegol yn cael ei gynnal y penwythnos nesaf gyda Dr Reynolds yn gweithio ar y safle tan ddechrau Gorffennaf gyda Ben Edwards o Brifysgol Fetropolitan Manceinion a Dr Seren Griffiths o Brifysgol Canol Sir Gaerhirfryn.