Cyflwyno Cadair a Choron Eisteddfod Sir Conwy

coron Image copyright Eisteddfod Genedlaethol
Image caption Angela Evans o Gaernarfon sydd wedi dylunio'r Goron eleni

Mae cadair a choron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi cael eu dadorchuddio mewn seremoni ger Llanrwst.

Y gemydd Angela Evans o Gaernarfon ddyluniodd y Goron, tra mai Gwenan Hâf Jones o Bentrefoelas sydd wedi creu'r Gadair.

Yn y seremoni dywedodd y darpar archdderwydd, Myrddin ap Dafydd bod y gwrthrychau yn "codi ysbryd" ac yn adlewyrchu egwyddorion am ddiwylliant a chymuned.

Yn y cyfamser, dywedodd cadeirydd pwyllgor gwaith y Brifwyl fod y trefniadau ar gyfer y maes yn Llanrwst yn "mynd yn arbennig o dda".

Image caption Dywedodd Angela Evans bod creu'r Goron yn "binacl gyrfa" iddi

Dywedodd Ms Evans bod llunio coron Eisteddfod wedi bod yn "freuddwyd" iddi.

"Mae o bendant yn binacl gyrfa i fi," meddai.

"Nes i sgwennu traethawd hir yn y coleg am goronau Eisteddfod, a chyfweld â sawl un oedd wedi creu coronau a gweld sut oedden nhw 'di mynd ati.

"Fedra' i ddim coelio bron 'mod i'n cael cyflwyno coron fy hun!"

Mae dyluniad Ms Evans yn cynnwys nifer o drionglau sy'n adlewyrchu tai - sef maes noddwyr y goron, Grŵp Cynefin.

'Braint'

Undeb Amaethwyr Cymru ydy noddwyr y Gadair, ac mae ei dyluniad hithau'n cyfeirio at fywyd gwledig ynghŷd â llwybr afon Conwy.

"Fi 'di'r ail ferch i ddylunio cadair, ond y gyntaf i ddylunio a chreu cadair," meddai Ms Jones, sy'n saer ym Maerdy ger Corwen.

"Mae'n fraint ac anrhydedd cael gwneud hynny ym mro fy mebyd, Sir Conwy."

Image copyright Eisteddfod Genedlaethol
Image caption Mae dyluniad y Gadair yn cyfeirio at fywyd gwledig ynghŷd â llwybr afon Conwy

Cyflwynodd y Prifardd Myrddin ap Dafydd, y darpar archdderwydd, bod y gwrthrychau'n adlewyrchu egwyddorion eu noddwyr.

"Mae'r ddwy wirioneddol wedi dod ag egwyddorion y noddwyr a'r pwyslais ar ddiwylliant a chymuned a thŷ ac aelwyd - mae'r cyfan wedi ei blethu yn dynn iawn iawn ac yn gelfydd iawn," meddai.

"Mae'n ddyrchafol iawn ac mae rhywbeth yn codi ysbryd yn y ddau waith."

Image caption Fe wnaeth Myrddin ap Dafydd gyflwyno cerdd i Gwenan Jones a'r Gadair

Derbyniodd cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Sir Conwy, Trystan Lewis y gwrthrychau ar ran y brifwyl, ac mae'n dweud bod "bwrlwm" yn lleol bellach wedi misoedd o ansicrwydd am leoliad y maes, yn dilyn llifogydd ym mis Mawrth.

"Mae'r trefniadau yn mynd yn arbennig o dda," meddai.

"Wrth gwrs, roedd gwaith dal i fyny ar ôl colli sawl mis."

Gan gyfeirio at law trwm y dyddiau diwethaf, ychwanegodd: "Gobeithio ei bod hi wedi glawio hynny feder hi fel bod y caeau yn sych erbyn dechrau mis Awst."

Pynciau Cysylltiedig