Morgannwg 173 ar y blaen i Sir Derby

Graham Wagg Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Graham Wagg 100 oddi ar 102 o beli i Forgannwg

Cyrhaeddodd Sir Derby 221 am 2 yn eu batiad cyntaf ar ail ddiwrnod gêm Pencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Morgannwg.

Roedd hynny ar ôl i Forgannwg gyrraedd 394 yn eu batiad cyntaf ar faes Sain Helen yn Abertawe.

Graham Wagg oedd prif sgoriwr Morgannwg, gan gyrraedd 100 oddi ar 102 o beli cyn cael ei ddal gan Luis Reece o fowlio Leus du Plooy.

Cymrodd Morgannwg ddwy wiced gynnar ond llwyddodd Billy Godleman a Tom Lace i adeiladu partneriaeth i Sir Derby, gan orffen y dydd 173 rhediad y tu ôl i'r tîm cartref.

Pynciau Cysylltiedig