Y diwrnod bu'n rhaid i ni benderfynu terfynu beichiogrwydd

Image copyright Rhian Wyn Pritchard

Yn 2013, bu'n rhaid i Rhian Wyn Pritchard, a'i gŵr, Sion, o Rhosybol, Ynys Môn, wneud y penderfyniad anodd i derfynu ei beichiogrwydd oherwydd salwch difrifol eu babi.

Mae hi'n chwe blynedd ers iddyn nhw golli eu mab, Hedd, ond mae dal yn eu meddyliau, meddai.

Yma, mae Rhian yn siarad am y cyfnod anodd hynny, a sut mae siarad amdano wedi ei helpu gyda'i galar.


"O'n i'n feichiog ac o'dd pob dim yn mynd yn iawn a wedyn es i am y 20 week scan, a 'nathon nhw ffeindio fod gynno'r babi bach left plastic heart syndrome.

"'Nathon nhw ddweud wrthon ni am beidio Googlo dim byd ar ôl i ni fynd adra - a'r peth cynta' nes i oedd Googlo fo - ac o'dd o'n rhywbeth reit siriys."

Cafwyd cadarnhad yn ysbyty Liverpool Women's mai dyma'r cyflwr oedd ar y babi, a'i fod yn fath difrifol iawn ohono. Roedd rhaid i Rhian a Sion wneud penderfyniad mawr.

Image copyright Rhian Wyn Pritchard
Image caption Rhian a Sion Pritchard

"O'dd 'na dri opsiwn: cario'r babi full term - iddo fo gael ei eni ac iddo fo farw.

"Yr opsiwn arall oedd ei gario fo full term a'i eni, ac iddo fo gael open heart surgery yn bump diwrnod oed, un arall yn bum mis oed, a'r trydydd yn bump oed."

Roedd y siawns y byddai'n goroesi yn mynd yn llai ac yn llai gyda phob llawdriniaeth, a chafodd y pâr eu rhybuddio y byddai'n gorfod treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd yn yr ysbyty, yn enwedig y flwyddyn gyntaf petai o'n goresgyn y ddwy driniaeth gyntaf.

Felly gwnaeth Rhian a Sion y penderfyniad yr oedden nhw'n ei gredu oedd decaf i'w mab bach.

"'Nathon ni benderfynu cael medical termination. 'Nath o gymryd tua 10 diwrnod i ni 'neud y penderfyniad achos o'dd o'n benderfyniad ofnadwy o anodd. Babi cynta'... o'ddan ni'n barod i ddechra' teulu...

"Ond mi 'nathon ni benderfynu y basan ni'n hunanol ofnadwy i gario 'mlaen efo'r pregnancy yn gwbod faint o sâl oedd o."

Bu farw Hedd ar 14 Mehefin 2013.

Image copyright Rhian Wyn Pritchard

Teimlo euogrwydd

Er ei bod yn gwybod ym mêr ei hesgyrn eu bod wedi gwneud y penderfyniad gorau i Hedd, doedd hynny ddim yn stopio Rhian rhag teimlo'n "ofnadwy o euog".

"Ar ddiwedd y dydd, fi nath seinio'r papur i roi'r injection i mewn i bol fi i stopio calon y babi. O'dd hynny'n ofnadwy o anodd, wedyn o'n i'n delio efo 'nes i'r peth iawn?', 'be' fasa wedi bod os fyswn i wedi cario fo?'. O'n i jyst yn meddwl amdano fo trwy'r adeg."

Roedd Rhian yn gorfod ymdopi gyda bywyd heb ei mab ar ôl dychwelyd o'r ysbyty, ac yn cael trafferth gadael y tŷ am gyfnod.

"Dwi'n cofio'r tro cynta' nes i fynd fy hun, a nes i bympio fewn i rywun, a do'dd hi ddim yn gwbo' be' i dd'eud, a 'nath hi jest dechra crio. O'n i'n crio hefyd a nes i dd'eud wrthi 'does 'na'm byd fedri di dd'eud'."

Image copyright Rhian Wyn Pritchard

Help drwy siarad

Er yn anodd i ddechrau, cafodd Rhian lawer o les drwy sesiynau cwnsela, a oedd wedi eu trefnu gan Tŷ Gobaith - hosbis sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth i blant angheuol o wael a'u teuluoedd.

Aeth i ymweld â'r hosbis, ger Conwy, ac roedd yn agoriad llygad iddi, meddai, o weld yr holl blant sâl yno - "O'dd o jyst yn gneud i chi feddwl 'dyna lle fasa Hedd".

Cafodd sesiynau cwnsela am tua chwe mis.

"I ddechra', o'dd o'n gneud i mi deimlo lot gwaeth achos o'dd o'n dod â'r emosiynau i gyd allan, ond o'dd o'n well cael o allan, yn lle cadw fo i fewn.

"Rhywbeth 'nath rili helpu ni oedd mynd i gerdded. O'dd y ddau ohonan ni'n cerdded milltiroedd a mynd â'r ci efo ni i bob man - ac o'dd hi'n gysur i'r ddau ohonan ni.

"Oddan ni'n tynnu llunia', ac mae'r llunia' mewn ffrâm ar wal y gegin - a dwi'n teimlo fod hwnna i 'neud efo Hedd - bod o 'di'n helpu ni i ddelio efo bywyd bob dydd ar ôl mynd drwy be' 'nathon ni efo fo."

mynd am dro Image copyright Rhian Wyn Pritchard
Image caption Rhai o'r lluniau sydd ar wal gegin y teulu, sydd yn atgoffa Rhian o'r cyfnod y bu'n delio â'i galar

Bellach, mae gan y cwpl ddau o blant bach - Casi sy'n bump, ac Osian sy'n dair oed - ac mae Rhian yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u brawd mawr, a'i fod yn rhan o'u bywydau nhw.

"Dwi'n siarad lot efo'r plant amdano ac mae nhw'n dod i fynwant efo ni.

"Mae hynny wedi fy helpu gan fy mod i'n teimlo ei fod o wastad efo ni am bo' ni'n siarad am Hedd yn reit agored efo'r plant.

"Does dim diwrnod yn mynd heibio lle tydw i ddim yn meddwl amdano, bechod."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig