Anfon cleifion iechyd meddwl 'yn ddiangen' i Loegr

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Mair Elliott wedi gorfod cael gofal iechyd meddwl yn Llundain

Mae yna bryderon bod cleifion iechyd meddwl yn cael eu hanfon i Loegr am driniaeth, er bod gwelyau ar gael yng Nghymru.

Yn ôl Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, mae rhai byrddau iechyd yn anfon cleifion mor bell â Llundain a Portsmouth yn rheolaidd.

Dywed yr elusen iechyd meddwl Hafal bod nifer o'r gwelyau yn eu canolfan yng Nghwm Tawe heb eu defnyddio o gwbwl ers ei hagor dwy flynedd yn ôl gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod yna ymroddiad i drin cleifion mor agos i'w cartrefi â phosib, ond rhaid darparu gofal mewn rhai achosion mewn "canolfannau arbenigol iawn yn Lloegr".

Y llynedd cafodd tua 30% o 1,000 o gleifion iechyd meddwl o Gymru eu hanfon i ysbytai yn Lloegr.

Dywed Hafal nad ydyn nhw'n deall sut mae modd cyfiawnhau'r ffigyrau, pan maen nhw'n methu â llenwi gwelyau yng Nghanolfan Adferiad Gellinudd ger Pontardawe.

"Dyw'r lle 'ma heb fod yn llawn o gwbl ers i ni agor," dywedodd un o gyfarwyddwyr yr elusen, Nia Murphy.

"Yn anffodus dim ond saith allan o 16 o welyau sydd wedi bod yn llawn ar unrhyw un bryd. Ar y foment mae yna bump o bobl yn aros gyda ni."

Image caption Dywed Hafal bod Canolfan Adferiad Gellinudd erioed wedi bod yn fwy na hanner llawn

Mae'r elusen yn dweud fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn gwario dros £50m ar anfon cleifion i Loegr.

"Mae'n rhwystredig i fod yn onest, ni'n gweithio'n galed, ni'n siarad i bobl sydd fod helpu a sydd yn gallu helpu ni, ond smo ni'n cael yr help," medd Ms Murphy.

"[Mae Llywodraeth Cymru yn] dweud bod nhw mo'yn helpu ni ond mae'r help byth yn dod. Ac i fod yn onest mae fe jyst yn mynd ymlaen ac ymlaen a mae fe'n dod i'r pwynt nawr bod rhaid i ni meddwl am beth sy'n mynd i ddygwydd nesaf."

Dywed Hafal nad ydyn nhw wedi cael gwybod pam bod cyn lleied o gleifion yn cael eu cyfeirio i'r ganolfan, a'u bod bellach yn ystyried derbyn cleifion o Loegr i gadw dau ben llinyn ynghyd.

"Rydym yn cynnig disgownt ar ein pris arferol i GIG Cymru, oherwydd y benthyciad gan Lywodraeth Cymru er mwyn agor, felly mae'n rhyfeddol y gallen ni orfod derbyn cleifion o Lundain lle bydden ni'n gwneud elw," meddai'r prif weithredwr, Alun Davies.

"Rydyn ni'n colli rhwng £300,000 a £400,000 y flwyddyn oherwydd gwelyau gwag, sy'n £7,000 neu £8,000 yr wythnos ac yn anghynaladwy i elusen."

'Drytach yn Lloegr'

Mae yna 87 o unedau sy'n trin oedolion â chyflyrau iechyd meddwl neu anableddau dysgu ar restr GIG Cymru ar gyfer y byrddau iechyd. Mae 20 yng Nghymru a 67 yn Lloegr.

Dywedodd cadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, yr Athro Keith Lloyd bod yna brinder gwelyau lleol ar draws y DU, ond bod hi'n bwysig bod cleifion ddim yn rhy bell o'u hanwyliaid tra'n cael triniaeth.

"Mae danfon rhywun i uned iechyd meddwl yn Lloegr yn ddrytach o lawer na gofalu amdanyn nhw yma yng Nghymru" meddai. "Y broblem yw, rydym wedi cau gwelyau."

Image copyright Thinkstock

"Dylid trin pobl â phroblemau iechyd meddwl yr un fath â phobl â phroblemau iechyd corfforol.

"Mae'n eithriad i bobl fynd i lefydd eraill am driniaeth at rywbeth fel canser. Rydych chi'n mynd i ganolfan arbenigol os oes gyda chi rywbeth anarferol iawn.

"Dydy'r cleifion iechyd meddwl sy'n cael eu danfon o'r ardal neu'r wlad, hyd yn oed, ddim yn bobl â chyflyrau anarferol iawn... gallen ni ofalu amdanyn nhw wrth ymyl eu teuluoedd a'u ffrindiau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymroi i sicrhau bod pobl yn cael gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu mor agos at gartref â phosib,

"Fodd bynnag, ar adegau mae gofal yn cael ei ddarparu mewn canolfannau arbenigol iawn yn Lloegr, sy'n gwasanaethu'r DU gyfan."

Ychwanegodd bod nifer y cleifion sy'n cael eu trin dros y ffin "yn parhau i ostwng, gyda mwy o bobl bellach yn cael gofal yng Nghymru".

Straeon perthnasol