Llifogydd yn achosi trafferthion

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Mike Lewis
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd nifer o geir ger canolfan hamdden Pentwyn eu dal yn y dilyw

Mae glaw trwm wedi achosi trafferthion mewn sawl ardal yng Nghaerdydd.

Cafodd nifer o gerbydau eu difrodi nos Wener ar ôl i lifogydd daro ffodd wrth ymyl Canolfan Hamdden Pentwyn.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru eu bod wedi cael galwadau am gymorth yn ardaloedd Llanrhymni a Phentwyn.

Roedd 'na adroddiadau hefyd o lifogydd yn cau un lon ar yr M4 ger Twneli Bryn-glas ger Casnewydd.

Ffynhonnell y llun, Mike Lewis