Un yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng cyffyrdd 30 a 32
Mae un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Porth Caerdydd a Coryton am 19:30 nos Fercher.
Cafodd un person ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Prifysgol Cymru.
Roedd y ffordd rhwng cyffyrdd 30 a 32 ar gau i'r ddau gyfeiriad wedi'r gwrthdrawiad.