Morgannwg mewn safle cryf yn erbyn Sir Northampton

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Andy Kearns
Disgrifiad o’r llun,
Billy Root oedd seren batiad cyntaf Morgannwg gyda sgôr o 229

Mae Sir Northampton yn wynebu brwydr ar y diwrnod olaf i achub eu gêm yn erbyn Morgannwg, a hwythau 270 rhediad ar ei hôl hi.

Bydd Morgannwg yn rhwystredig wedi i law gael effaith fawr ar y trydydd diwrnod, gan olygu mai dim ond sesiwn y bore oedd modd chwarae.

Fe wnaeth y Cymry orffen eu batiad cyntaf nhw ar sgôr gwych o 547, o'i gymharu â batiad cyntaf o 209 i Sir Northampton.

Llwyddodd y sir o Loegr i gyrraedd sgôr o 68-0 cyn i'r glaw gyrraedd ddydd Mawrth, ond mae hynny'n golygu eu bod yn parhau 270 rhediad y tu ôl i Forgannwg.