Glaw yn effeithio ar gêm Morgannwg yn Sussex

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Marnus Labuschagne wedi cyrraedd 131 heb fod allan yn ail fatiad Morgannwg

Dim ond 21 pelawd o chwarae fu ar drydydd diwrnod gêm Morgannwg yn erbyn Sussex ym Mhencampwriaeth y Siroedd oherwydd glaw.

Gorffennodd Morgannwg ar 218 am 1 cyn i'r glaw gyrraedd erbyn amser cinio yn Hove.

Marnus Labuschagne (131 heb fod allan) a Nick Selman (64 heb fod allan) sydd wedi sgorio holl rediadau'r ymwelwyr yn yr ail fatiad.

Mae'n golygu bod Morgannwg 16 rhediad y tu ôl i Sussex gyda naw wiced yn weddill ar ddiwrnod olaf y gêm.