Cyhoeddi £4.3m i hyrwyddo'r Gymraeg mewn cymunedau lleol
- Published
Bydd £4.3m ar gael i hyrwyddo'r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru dros y 12 mis nesaf, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.
Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, fod cyfanswm o 79 o sefydliadau wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae Urdd Gobaith Cymru, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Merched y Wawr, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, a'r Mentrau Iaith ymhlith y sefydliadau a fydd yn derbyn cyllid.
Mae cronfa hefyd i gefnogi gwyliau cymunedol ledled Cymru ac yn parhau i ariannu 52 o bapurau bro.
Roedd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno tystiolaeth ynghylch sut y byddan nhw'n cyfrannu at amcanion Cymraeg 2050, sef nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Ms Morgan y byddai'n "cefnogi ffyniant yr iaith mewn cymunedau ledled y wlad".
"Mae'r cyllid hwn yn sicrhau ein bod yn parhau i arloesi ac adeiladu ar sail arferion a phrosiectau llwyddiannus sy'n cynnig cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg o bob math i ddefnyddio, rhannu a mwynhau'r iaith dros y flwyddyn i ddod ac am flynyddoedd i ddod."
Y rhestr lawn o'r sefydliadau sydd wedi bod yn llwyddiannus:
- CFFI Cymru - £124,719
- Cymdeithas Eisteddfodau Cymru -£46,036
- Yr Eisteddfod Genedlaethol - £603,000
- Merched y Wawr - £110,000
- Mentrau Iaith Cymru - £160,000
- Urdd Gobaith Cymru - £852,184
- Cered - £120,626
- Hunaniaith - £192,890
- Menter Iaith Abertawe - £102,145
- Menter Iaith BGTM - £118,332
- Menter Bro Ogwr - £60,000
- Menter Caerdydd a'r Fro - £206,736
- Menter Caerffili - £95,552
- Menter Iaith Casnewydd - £60,000
- Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot - £77,415
- Menter Iaith CNPT Cynllun Aman Tawe - £38,000
- Menter Iaith Conwy - £105,570
- Menter Iaith Sir Ddinbych - £81,583
- Menter Iaith Merthyr - £60,000
- Menter Môn - £133,060
- Mentrau Iaith Powys - £132,591
- Menter Iaith Rhondda Cynon Taf - £107,768
- Menter Iaith Sir Benfro - £90,279
- Mentrau Iaith Sir Gâr - £281,505
- Mentrau Iaith Sir Gâr Cynllun Aman Tawe - £38,000
- Mentrau Iaith Fflint a Wrecsam - £132,043
- Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (CCC) - £50,000
- Cronfa Papurau Bro - £97,810
- Cronfa Gwyliau - £50,000
Pynciau Cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Ebrill 2019
- Published
- 16 Ionawr 2018