Cerbyd mewn cronfa ddŵr ger yr A470

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae tair cronfa cronfa ddŵr oddi ar ffordd yr A470 rhwng Merthyr Tudful ac Aberhonddu

Aed â gyrrwr i'r ysbyty ddydd Llun ar ôl i gerbyd wyro oddi ar ffordd yr A470 ar Fannau Brycheiniog a glanio mewn cronfa ddŵr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gronfa ger canolfan awyr agored Storey Arms am 12.30 gan yrwyr eraill.

Aeth y gyrrwr, oedd wedi llwyddo i ddianc gyda mân anafiadau, i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful mewn ambiwlans.

Mae ymdrechion i godi'r cerbyd o'r dŵr yn parhau.