Buddugoliaeth pedwar diwrnod gynta'r tymor i Forgannwg

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Llwyddodd David Lloyd i ychwanegu 37 at gyfanswm Morgannwg yn y batiad olaf

Mae Morgannwg wedi ennill eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd y tymor yma yn dilyn gêm agos yn Sir Derby.

Fe wnaeth y tîm cartref ddechrau'r diwrnod olaf ar sgôr o 171-9, oedd yn fantais o 203 rhediad.

Llwyddodd Sir Derby i ychwanegu 42 rhediad fore Mercher i osod targed o 246 i Forgannwg er mwyn ennill.

Er i'r ymwelwyr gael dechrau gwael i'w batiad, fe lwyddon nhw i sefydlogi, gyda saith o fatwyr Morgannwg yn cael sgôr o dros 25 rhediad.

Tom Cullen oedd y seren i'r Cymry gyda sgôr o 51 heb fod allan, gan eu harwain at fuddugoliaeth o ddwy wiced.