Celf i nodi 160 mlynedd ers trychineb y Royal Charter

Celf Moelfre
Image caption Bydd y celf yn edrych dros y lleoliad ble wnaeth y Royal Charter suddo

Mae gwaith celf wedi cael ei ddadorchuddio i nodi 160 mlynedd ers trychineb ar Ynys Môn wnaeth ysbrydoli'r shipping forecast

Bu farw 450 o bobl wedi i long y Royal Charter daro creigiau oddi ar Bae Dulas yng ngogledd-ddwyrain yr ynys mewn storm yn 1859.

Nawr mae gwaith celf dwyochrog sydd wedi'i osod ar hwyl wedi cael ei ddadorchuddio ger Moelfre i nodi un o drychinebau môr gwaethaf y DU.

Wedi'i leoli ar lwybr yr arfordir rhwng Lligwy a Moelfre, bydd y celf yn edrych dros y lleoliad ble wnaeth y Royal Charter suddo ar ei ffordd o Melbourne, Awstralia i Lerpwl.

Image caption Mae cyfeiriad y gwynt yn penderfynu pa lun fydd yn cael ei weld gan gerddwyr

Mae un ochr y llun yn dangos môr llonydd, tra bod yr ochr arall yn dangos y drychineb.

Fe wnaeth y gwyntoedd yn oriau mân y bore ar 26 Hydref 1859 gyrraedd dros 100mya - y cryfaf oedd wedi'i gofnodi erioed ar y pryd.

Cafodd y rhagolygon tywydd cyntaf ar gyfer y môr ei ddatblygu gan bennaeth y Swyddfa Dywydd, Robert FitzRoy, flwyddyn yn ddiweddarach.

O fewn amser, byddai'r rhagolygon yma'n datblygu i fod yn sail i'r shipping forecast dyddiol.

Pynciau Cysylltiedig