Gêm gyfartal i Forgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd

Morgannwg yn dathlu Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd Sir Gaerloyw i frwydro nôl i sicrhau gêm gyfartal ar ôl i Forgannwg osod targed o 269 rhediad mewn 51 pelawd.

Daeth Morgannwg â'u hail fatiad i ben ar 481-8, gyda Marnus Labuschagne (137) a Nick Selman (150) yn serennu.

Fe ddiflannodd gobeithion yr ymwelwyr o drechu Morgannwg wrth iddyn nhw golli pedwar wiced mewn 13 pelawd.

Ond fe wnaeth Benny Howell (44) a Gareth Roderick (19) wrthsefyll bowlwyr y tîm cartref yn ddigon hir i sicrhau cyfanswm o 137-6.

Roedd hi wedi 18:00 pan ddaeth yr ornest yng Nghasnewydd i ben, ac mae'r gêm gyfartal yn golygu bod Morgannwg yn parhau yn y nawfed safle yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol