Adran Gwleidyddiaeth Aberystwyth yn dathlu'r 100

interpol Image copyright Gareth Evans
Image caption Cafodd adeilad newydd Adran Gwleidyddiaeth Aberystwyth ei agor ym mis Gorffennaf, 2006

Mae'r gwanwyn yma'n nodi 100 mlynedd ers sefydlu Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, sef yr adran hynaf o'i bath yn y byd.

Mae'n adran sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, gyda dros 700 o fyfyrwyr o 40 gwlad, yn astudio ar lefel israddedig, meistr a doethuriaeth.

Alumni adnabyddus

Mae'r adran wedi cyfrannu'n helaeth i fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru dros y blynyddoedd, ac yn parhau i gynhyrchu graddedigion sy'n amlygu eu hunain mewn sawl maes.

Ymysg y rhai sydd wedi astudio yn adran wleidyddiaeth Aberystwyth mae'r Aelodau Cynulliad Alun Davies, Bethan Jenkins a Lee Waters, yr Aelodau Seneddol Jonathan Edwards, Glyn Davies a Chris Ruane, y darlledwr Jeremy Bowen ac Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Y dyddiau cynnar

Sefydlwyd yr adran i bob pwrpas mewn ymateb i drychinebau'r Rhyfel Byd Cyntaf, pan gafodd dros 100 o fyfyrwyr Aberystwyth eu lladd ar faes y gad.

Ysgrifennodd yr Uwchgapten David Davies (a gafodd y teitl Arglwydd Davies Llandinam yn hwyrach) at bennaeth y coleg yn dweud y dylai sefydlu adran gwleidyddiaeth er teyrnged i'r bechgyn ifanc a fu farw.

Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Yr Athro Richard Beardsworth, pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth

Fe gynigiodd y teulu Davies, un o'r teuluoedd enwocaf yng Nghymru ar y pryd, £20,000 (tua £8m yn arian heddiw) tuag at sefydlu'r adran.

Y teulu oedd noddwyr Cadair yr Adran hefyd, a sefydlwyd i anrhydeddu Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

'Astudio problemau'

Yr Athro Richard Beardsworth yw pennaeth presennol Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth.

"Mae llawer wedi newid ym myd gwleidyddiaeth ryngwladol ers sefydlu'r adran a chyflwyno Cadair Woodrow Wilson i Syr Alfred Zimmern yng ngwanwyn 1919," dywedodd.

"Wedi dweud hynny, mae cenadwri wreiddiol yr adran gyntaf honno, yr un gyntaf o'i fath yn y byd, wedi gyrru datblygiad yr adran byth ers hynny. Yng ngeiriau David Davies i 'astudio'r problemau cysylltiol rheiny - y gyfraith a gwleidyddiaeth, moeseg ac economyddiaeth… er budd gwell dealltwriaeth o fywydau ar wahân i'n rhai ni ein hunain...'".

Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Syr Alfred Zimmern, daliwr cyntaf Cadair Woodrow Wilson yn Adran Gwleidyddiaeth Aberystwyth

Sefydlwyd Cynghrair y Cenhedloedd yn 1920 gyda'r bwriad o geisio cadw heddwch byd. Daeth y sefydliad i ben ddiwedd yr Ail Ryfel Byd pan grëwyd y Cenhedloedd Unedig.

Yn 1926 roedd dathliadau i goffáu'r Almaen yn cael caniatâd i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd ar ôl ei halltudio wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf. Dresden oedd y lleoliad a ddewiswyd yn wreiddiol, ond mewn cyfarfod ym mis Mawrth 1926 cafwyd gwrthwynebiadau a beryglodd y dathliadau, ac fe benderfynwyd i gynnal y dathliadau yn Aberystwyth.

Un o arweinwyr, a phrif gefnogwr ariannol, Cymdeithasau Cynghrair y Cenhedloedd yng Nghymru a Gwledydd Prydain oedd yr Uwchgapten David Davies, AS Sir Drefaldwyn. Yn ogystal â bod yn ddyn busnes a dyngarwr, ef hefyd oedd Llywydd Prifysgol Aberystwyth, ac er mwyn achub cyngres 1926 cynigiodd ei chynnal yn Aberystwyth. Felly roedd y gŵr yma'n ffigwr hollbwysig pan sefydlwyd Adran Gwleidyddiaeth Aberystwyth a phan gafodd ddigwyddiad gwleidyddol enfawr ei chynnal yn y dre.

Wedi tri mis o waith paratoi gan Gyngor Tref Aberystwyth, swyddogion y Brifysgol a thrigolion Aberystwyth, cynhaliwyd cyngres lwyddiannus yn y dref rhwng 29 Mehefin a 3 Gorffennaf 1926.

Wrth edrych ar restr o'r lleoedd lle bu'r Ffederasiwn yn cyfarfod cyn ac ar ôl 1926, mae Aberystwyth mewn cwmni da iawn. Paris (1919), Llundain (1919), Brwsel (1919), Milan (1920), Geneva (1920), Prague (1922), Vienna (1923), Lyon (1924), Warsaw (1925), Aberystwyth (1926), Berlin (1927), Yr Hag (1928), Prague (1928), Madrid (1929), Brwsel (1934) a Geneva (1936).

Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Ymweliad Cynghrair y Cenhedloedd ag Aberystwyth, 1926

'Rhoi bri i'r Gymraeg'

Mae nifer o academyddion adnabyddus wedi dysgu yn yr adran, gan gynnwys E. H. Carr, Leopold Kohr, Ken Booth a Michael MccGwire.

Rhywun arall adnabyddus yn y byd academaidd a oedd yn gysylltiedig â'r adran am flynyddoedd, fel myfyriwr yn gyntaf ac yna fel darlithydd, yw'r Athro Richard Wyn Jones. Mae bellach yn Gyfarwyddwr ar Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Fe dreuliais bron chwarter canrif yn "interpol" gan gychwyn yno fel myfyriwr blwyddyn gyntaf a gadael fel Athro," meddai.

"Yn ystod y cyfnod yna roeddwn i'n ddigon ffodus i gael gweld y lle'n troi o fod yn adran digon cysglyd a oedd hefo agwedd digon - ahem - 'amwys' tuag at y Gymraeg, i fod yn un o'r canolfannau pwysicaf trwy'r byd ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol a oedd hefyd yn rhoi bri ar y Gymraeg.

"Mae'n adran sydd wedi ail-ddyfeisio ei hun sawl gwaith a bydd yn ddifyr cael gweld beth wnawn nhw nesaf. Ond yn y cyfamser, pen-blwydd hapus!"

Image copyright Prifysgol Aberyswyth
Image caption Yr Hen Goleg, cartref gwreiddiol Adran Gwleidyddiaeth Aberystwyth

'Siapio rôl Cymru'

Mae'r Athro Richard Beardsworth o'r farn bod Adran Gwleidyddiaeth Aberystwyth wedi esblygu dros y blynyddoedd.

"Mae'r adran bob amser yn ymdrin â gwleidyddiaeth ryngwladol mewn ffordd arloesol, gan edrych ar lawer o agweddau gwahanol gyda llygaid feirniadol."

"O'r 1960au ymlaen, er enghraifft, fe lansiwyd y rhaglenni mwyaf cynhwysfawr mewn ngwleidyddiaeth ryngwladol ac astudiaethau strategaeth gwybodaeth a diogelwch," meddai'r Athro Beardsworth.

"Ers dechrau'r 1990au, mae wedi cael dylanwad mawr ar theori ryngwadol, a'r ffordd rydyn ni'n dehongli'r realiti gwleidyddiaeth ryngwladol o du mewn a thu allan i ryddfrydiaeth ryngwladol.

"Wrth i'r bygythiadau, yr heriau a'r bobl sy'n gweithredu ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol newid, mae'r adran hefyd wedi ymroi i ddeall a siapio rôl Cymru wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang.

"Mae gan yr adran hanes bwysig yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol: o bydded i hyn fod o fudd i ni ar gyfer y 100 mlynedd nesaf."

Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Cafodd yr adran ei dyfarnu yn y deg adran uchaf am ei hymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddaraf yn 2015 ac yn y deg uchaf yn y DU am ansawdd dysgu ac ymchwil mewn Gwleidyddiaeth (The Times a'r Sunday Times Good University Guide 2018).