Morgannwg yn curo Sussex o ddwy wiced

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Billy Root oedd prif sgoriwr Morgannwg

Mae Morgannwg wedi curo Sussex yn y Cwpan Undydd yn Hove o ddwy wiced.

Y tîm cartref alwodd yn gywir a dewis batio, ac er gwaethaf llwyddiant cynnar i fowlwyr Morgannwg fe lwyddodd Luke Wright a Lawrie Evans i roi sail gadarn i'r batiad gyda sgoriau o 97 a 110.

Gyda chyfraniad sydyn hefyd o 57 gan David Wiese fe lwyddodd Sussex i gyrraedd 347 am 7 yn eu 50 pelawd.

Fe ddechreuodd Morgannwg yn dda gyda Jeremy Lawlor (48), Chris Cooke (41), Manus Labuschagne (54) a Billy Root (78) i gyd yn cyfrannu rhediadau.

Ond roedden nhw hefyd yn colli wicedi, gan roi pwysau ar y batwyr eraill.

Fe ymatebodd Dan Douthwaite yn wych, yn sicrhau 52 o rediadau oddi ar 35 pêl, a gyda chymorth Marchant de Lange a Graham Wagg daeth Morgannwg o fewn cyrraedd i'r nod.

Morgannwg yn ennill felly o 348-8, gydag wyth pêl yn weddill.