Anaf i swyddog heddlu wrth i yrrwr car BMW geisio ffoi

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd yr achos ger cyffordd Ffordd Rhuthun a ffordd ddeuol yr A483

Mae swyddog heddlu wedi cael anaf ar ôl cael ei daro gan gar wrth i'r gyrrwr geisio ffoi.

Roedd plismyn wedi ceisio stopio'r BMW du yn Wrecsam ond cafodd yr heddwas ei daro "wrth i yrrwr y cerbyd geisio rhedeg oddi wrtho".

Mae un dyn wedi cael ei arestio wedi'r digwyddiad tua 17:00 ddydd Sul ar Ffordd Rhuthun ac mae'r heddlu yn chwilio am berson arall mewn cysylltiad â'r achos.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio i'r cyhoedd am wybodaeth a lluniau dash cam all helpu eu hymchwiliad.

Mae'r heddlu'n chwilio am gerbyd BMW du cyfres 3 gyda'r rhif plat cofrestr KG56 LHY.

Fe ddigwyddodd yr achos ger cyffordd Ffordd Rhuthun a ffordd ddeuol yr A483.