Record newydd ym marathon Casnewydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Marathon Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,
Roedd 6.000 o redwyr yng Nghasnewydd fore Sul

Roedd ffyrdd o gwmpas Casnewydd ar gau fore Sul wrth i 6,000 o gystadleuwyr redeg marathon a ras 10k.

Chris Bird oedd y dyn cyntaf i orffen gan dorri'r record a osodwyd yn 2018.

Carla Swithenbank oedd y fenyw gyntaf i orffen y ras.

Fe gwblhaodd Mr Bird y ras o fewn dwy awr, 31 munud a 34 eiliad ac o fewn 14 munud ( dwy awr, 45 munud a 48 eiliad) roedd Ms Swithenbank wedi cwblhau'r ras.

Mae marathon Casnewydd yn ras cymharol fflat ac felly yn gyfle i redwyr sicrhau eu hamser cyflymaf.

Llynedd dywedodd busnesau bod yr economi leol wedi elwa £1.1m

Roedd disgwyl i'r rhedwyr fwyta rhyngddynt 4,500 banana ac amcangyfrifir fod cystadleuwyr y marathon wedi cwblhau 56,000 cam.