Aaron Ramsey ddim am chwarae eto dros Arsenal

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Aaron Ramsey anaf i'w goes yn y gêm yn erbyn Napoli bythefnos yn ôl

Ni fydd Aaron Ramsey yn chwarae eto dros Arsenal wedi cadarnhad y bydd yn colli gweddill y tymor gydag anaf i'w goes.

Mae amheuaeth felly a fydd yn holliach i gynrychioli Cymru yn y gemau oddi cartref yn Croatia a Hwngari fis nesaf.

Bu'n rhaid i'r chwaraewr canol cae adael y maes ar ôl 34 munud o gêm Arsenal yn erbyn Napoli bythefnos yn ôl.

Fe wnaeth Arsenal gyhoeddi ddydd Mercher na fydd Ramsey ar gael ar gyfer eu dwy gêm olaf yn yr Uwch Gynghrair na rownd gynderfynol Cynghrair Europa yn erbyn Valencia.

Symud i Turin

Mae'r Cymro 28 oed eisoes wedi cytuno i symud i Juventus ar ddiwedd y tymor pan fydd ei gytundeb â'r clwb o Lundain yn dod i ben.

Mae hynny'n golygu mai'r gêm yn erbyn Napoli oedd ei olaf i'r clwb, ag yntau wedi bod gydag Arsenal ers 2008.

Does dim gwybodaeth eto a fydd Ramsey ar gael i Gymru ar gyfer eu gemau yn rownd ragbrofol Euro 2020 ym mis Mehefin.

Bydd Cymru'n teithio i Osijek i wynebu Croatia ar ddydd Sadwrn, 8 Mehefin, cyn herio Hwngari yn Budapest ar 11 Mehefin.