Morgannwg yn ennill adref yn erbyn Surrey

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,
Graham Wagg yn dathlu wedi bowlio celfydd gan de Lange i Forgannwg

Daeth buddugoliaeth gyntaf Morgannwg yng Nghwpan Undydd 2019 trwy berfformiad disglair gan Billy Root (113 heb fod allan) a de Lange a sgoriodd 58 rhediad heb fod allan drwy 35 pelen yn unig gyda phum chwech.

Roedd perfformiadau'r ddau yn sgoriau gorau eu gyrfa hyd yn hyn.

Roedd y perfformiadau hyn a gweddill y tîm wedi sicrhau fod yn rhaid i Surrey sgorio 324 i ennill y gêm.

Dechreuodd batiad Surrey yn wan a de Lange y tro hwn yn bowlio'n gelfydd gan gipio tair o'r pedair wiced gyntaf a gadael yr ymwelwyr ar 28 am 4.

Ond fe frwydrodd Surrey yn ôl a Jordan Clarke yn cyrraedd 79, ond 259 rhediad oedd eu cyfanswm yn y diwedd ar ôl 46.4 pelawd.

Sicrhaodd Morgannwg y fuddugoliaeth o 64 rhediad.

Mae hynny yn gosod Morgannwg yn seithfed yn y tabl gydag un fuddugoliaeth a thair colled - gyda Surrey a Chaint yn wythfed a nawfed yn y tabl.