Uwch Gynghrair Lloegr: Fulham 1-0 Caerdydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd gôl arbennig Ryan Babel yn ddigon i wahanu'r ddau dîm yn Craven Cottage wrth i'r Adar Gleision agosáu at ddisgyn i'r Bencampwriaeth.

Mae Caerdydd pedwar pwynt tu ôl i Brighton yn y tabl erbyn hyn gydag ond dwy gêm yn weddill.

Mae'r Seagulls hefyd yn bell ar y blaen o ran gwahaniaeth goliau.

Golygai pwynt Brighton yn erbyn Newcastle nos Sadwrn bod angen i Gaerdydd ennill yn erbyn Crystal Palace a Manchester United er mwyn bod ag unrhyw siawns o aros yn yr Uwch Gynghrair.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Prin iawn oedd y cyfleoedd yn yr hanner cyntaf i'r ddau dîm, ond roedd rhaid i Neil Etheridge arbed yn dda o ergyd Alexandr Mitrovic o du allan i'r cwrt cosbi.

Roedd saib o bron i ddeg munud yn yr hanner cyntaf hefyd ar ôl i amddiffynnwr Fulham, Denis Odoi dderbyn anaf i'w ben.

Roedd yr ail hanner yn lawer fwy agored gyda'r ddau dîm yn gwthio am y gôl hollbwysig, ond Fulham aeth ar y blaen wrth i Babel grymanu'r bêl i gornel y rhwyd o 20 llath gyda deg munud yn weddill.

Er i Gaerdydd greu sawl cyfle ym munudau ola'r gêm - y gorau o'r rheini yn disgyn i Junior Hoillet - fe lwyddodd Diego Rico i rwystro ymosodwyr Caerdydd gyda chyfres o arbedion campus.