Ymadroddion ‘cwbl Gymreig’ sy'n dod o’r Saesneg

Cyhoeddwyd

Newydd sbon. Rapscaliwn. Rhacs jibidêrs.

Mae'r geiriau yma yn gyfarwydd i nifer ohonom ni. Ond credwch neu beidio, maen nhw'n ymadroddion a dywediadau sydd wedi dod o'r iaith Saesneg, er eu bod yn swnio'n gwbl Gymreig erbyn hyn.

Roedd Cymry ers talwm yn Cymreigio geiriau dieithr i'r iaith yn hytrach na defnyddio'r gair fel ag yr oedd.

Dyma lond llaw o ymadroddion Cymraeg sydd wedi dod o'r iaith fain:

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,
Fo 'di Rapsgaliwn, rapiwr gorau'r byd...

Rapscaliwns

Daw'r defnydd cyntaf o'r gair Saesneg rapscallion o tua'r flwyddyn 1700 i ddisgrifio a rascal, rogue, scamp. Llygriad felly o'r gair rascal (rascallion gyda 'p' wedi ei ychwanegu) yw rapscallion. Daw'r gair Saesneg rascal yn wreiddiol o Hen Ffrangeg rascallie am bobl o haen isaf y gymdeithas.

Giamstar

Mae pobl yn defnyddio 'giamstar' i ddisgrifio rhywun sydd yn dipyn o arbenigwr ar rywbeth. Mae'n tarddu o'r gair gamester yn Saesneg sy'n golygu rhywun sydd ar dop ei gêm.

Rhacs jibidêrs

Mae sawl ardal yng Nghymru'n defnyddio'r ymadrodd 'rhacs jibidêrs' am rhywbeth sydd wedi malu'n deilchion, yn yfflon, yn gyrbibion mân.

Ar lafar yn Ngheredigion ddiwedd y 1800au roedd y gair 'shibidêrs' yn cael ei ddweud yn lle 'jibidiers'. Yn yr un ardal hefyd roedd yr ymadrodd 'yfflon jibets' yn gyffredin ac mae hynny'n taflu rhywfaint o oleuni ar darddiad y gair rhyfedd 'jibidêrs'.

Disgrifiad o’r llun,
Adeilad yn rhacs jibidêrs yn dilyn storm ddrwg

Gair Saesneg yn nhafodiaith Wiltshire yw jibbets, am deilchion, carpiau neu friwsion (morsels, bits neu smithereens).

"All in libbets and jibbets" yw'r dywediad yn Wiltshire am bethau sydd wedi mynd yn shwrwd, dirty jibbets meddant am ddillad carpiog.

Daw ail ran y gair o'r gair tears (sef torn parts,nid y gair Saesneg am ddagrau). Dros y canrifoedd ar dafodau'r Cymry mae'r cyfuniad o'r ddau air jibbets a tears wedi troi'n 'jibetears', yn 'jibitêrs' ac yna'n 'jibidêrs'.

Newydd sbon

Yn hen iaith Norwy y term am shafin neu sglefren newydd ei dorri oddi ar ddarn o bren oedd spán-nyr gyda span yn golygu'r 'siafin' neu chip yn Saesneg a nyr yn golygu 'newydd' (new). Defnyddiwyd y term yn ddiweddarach yn Saesneg yn y 1500au fel spanne-newe i olygu rhywbeth hollol newydd.

Gair arall yn yr hen Norwyeg yw spik sy'n golygu 'pigyn' neu 'hoelen' newydd ddod o dân yr efail (tarddiad spike yn Saesneg). O dipyn i dro daeth y term spick and span i olygu unrhyw beth oedd newydd gael ei greu. Y span hwn, wedi ei newid i 'sbon' sydd wedi rhoi'r term 'newydd sbon' i ni yn Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,
Mae hen iaith y Norwyiaid hefyd wedi dylanwadu ar ein hiaith

Ciaridyms

Mae bob un ohonom siŵr o fod yn 'nabod rhyw unigolyn diafael, digywilydd a rhy ddireidus o lawer! Mae gennym sawl enw ar bobl felly: rapscaliwn, rafin, pwdryn a mwlsyn. Ond y gair difyrraf o bosib ydi 'ciaridym'.

Dywed rhai bod y term 'ciaridym' ei hun yn dod o'r geiriau 'clêr y dom' (sef gwaelod y domen) a'i fod wedi ei addasu ar lafar. Ond y gwir ydi mai o'r ymadrodd Saesneg don't care a damn y daw a bod y don't wedi ei golli gan adael care a damn sydd yn ei dro wedi mynd yn 'ceradam' i 'caridym' ac wedyn yn 'ciaridym'.

Rafins

Benthyciad uniongyrchol o'r gair Saesneg ravings yw 'rafins'. Yn yr hen iaith Saesneg Canol ystyr rave oedd dangos symptomau o wallgofrwydd a cholli rheolaeth ar y meddwl ac ymddwyn yn wallgo ac afreolus (dal yn wir heddiw efallai!?) Ganrifoedd yn ddiweddarach daeth y term raving i olygu good for nothing layabout.

Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl Bryn Fôn yn y gân Dwi'm yn Licio, dydi o ddim yn licio 'blydi stiwdants, ma' nhw'i gyd yn benna' bach - meddwl bo' nhw'n rafins, ond y nhw 'di'r blydi crach!

Congrinêro

Mewn rhai ardaloedd o Wynedd roedd y term 'congrinêro' yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio'n ddirmygus at rywun oedd yn bencampwr, yn fuddugwr ond yr un pryd yn arwr ffug neu rhywun yn meddwl mwy ohono'i hun na ddylai. 'Rwyt ti'n rêl congrinero 'rŵan!'

Yn syml daw'r term o'r ymadrodd Saesneg conquering hero.

Ffynhonnell y llun, S4C

Un a oedd yn Cymreigio geiriau Saesneg yn aml, oedd y cymeriad Ifas y Tryc - un o greadigaethau'r dramodydd enwog Wil Sam Jones. Ond byddai ef yn newid ychydig ar y gair gwreiddiol a chwarae ar ei ystyr gwreiddiol e.e. 'England Refeniw' am Inland Revenue a 'carped Rhacsminster' am garped drud Axminster.

Ei ymadrodd enwocaf oedd 'Britannia Rŵls ddy Wêls' yn lle Britannia Rules the Waves.

Hefyd o ddiddordeb: