'Angen mwy o gymorth seicolegol i rieni babanod cynnar'

Caio yn fuan wedi ei enedigaeth Image copyright Kim Williams
Image caption Cafodd Caio ei eni 10 wythnos yn gynnar ar ôl iddo stopio tyfu yn y groth

Mae mam o Bwllheli wedi dweud wrth Newyddion 9 bod diffyg ymwybyddiaeth ynghylch yr effaith seicolegol ar rieni babanod sy'n cael eu geni'n gynnar.

Dim ond pump o'r 11 uned mamolaeth neu newydd-enedigol yng Nghymru sy'n gallu cynnig cymorth seicolegol i rieni, yn ôl Bliss - yr elusen sy'n cefnogi teuluoedd plant sydd wedi eu geni'n gynnar.

Yn ôl Kim Williams, mae genedigaeth ei mab, Caio -10 wythnos yn gynnar - a'r saith wythnos y bu'n cael gofal dwys yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd yn cael "effaith enfawr" ar y teulu hyd heddiw.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai gofal seicolegol fod ar gael i bob rhiant â phlentyn sy'n cael gofal newydd-enedigol, ac yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mae cynllun newydd wedi cefnogi dros 450 o bobl ers ei lansio y llynedd.

Bob blwyddyn mae tua 35,000 o fabanod yn cael eu geni'n gynnar yng Nghymru ac mae tua 10% o'r rheini'n derbyn gofal mewn uned newydd-enedigol.

Mae 40% o'r rhieni yn yr achosion hynny yn fwy tebygol o ddioddef iselder ôl-enedigol.

Image caption Dywed Kim Williams bod y nyrsys yn "ofnadwy o dda" ond chafodd hi ddim cynnig help seicolegol arbenigol

Sefydlodd Kim Williams grŵp ar gyfer mamau a babanod fel bod rhieni yn gallu cymdeithasu a thrafod eu teimladau.

Mae Caio bellach yn ddwy oed, ond mae amgylchiadau ei enedigaeth yn 2017 wedi gadael eu hôl.

"Mae o jest yn massive o whirlwind," meddai. "Un diwrnod ma' bob dim yn mynd yn smooth a wedyn - crash.

"O'n i jest mor ypset. Do'n i'm 'di gweld hogyn bach fi, do'n i'm 'di cl'wad o'n crio, o'n i'm yn gw'bod os oedd o'n iawn."

Image caption Mae Caio bellach yn ddyflwydd oed

"Oedd y nyrsys yn ofnadwy o dda - oedd ginnon nhw ddigon o amser i chdi a fysan nhw'n gwrando arna'i yn crio neu os oedd ginno fi boen amdan Caio.

"O be 'dwi'n cofio, ches i ddim cynnig dim help seicolegydd... pan es i adra a welish i'r health visitor a hi wedyn nath meddwl fysa'n well os byswn i'n siarad efo rhywun."

Mae'n dweud ei bod yn "teimlo'n ofnadwy o isel ar un adeg" a wedi cael sesiynau cwnsela.

"Ma' rhywun yn meddwl bod ti'n dod o'r hospitol a ma'r babi'n iawn. 'Na fo, mae o drosodd. Ond dydi o ddim. [Ac wrth ganolbwyntio ar Caio], dwi'n teimlo bo' fi 'di pwsho pobol wedyn i ffwrdd.

"Mae'r plant hŷn yn poeni os mae Caio'n dal annwyd neu'n sâl neu'n syrthio. 'Dwi'n meddwl am ei fod o mor fragile am mor hir, ma' pawb yn meddwl bod o dal yn fabi bach.

Image caption Mae pwysau cynyddol ar nyrsus i ofalu am iechyd meddwl y rhieni, medd Nicola Davis-Job o'r Coleg Nyrsio Brenhinol

Yn ol canllawiau Llywodraeth Cymru, dylai cymorth seicolegol a chymdeithasol fod ar gael i bob rhiant sydd â phlentyn mewn gofal newydd-enedigol, ond mae yna bryder bod y baich yn syrthio'n gynyddol ar nyrsys i ddarparu gofal iechyd meddwl i rieni.

"Mae'n anodd achos does dim digon o nyrsys," meddai Nicola Davis-Job o'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru. "Mae'r niferoedd comisiynu wedi aros yr un fath.

"Does gyda ni ddim mwy o fyfyrwyr nyrsio pediatrig na iechyd meddwl, felly mae'r llwyth gwaith yn fwy o lawer.

"Mae'n rhaid iddyn nhw ofalu am y babi a'r rhieni ac mae yna fwy o bwysau. Mae yna lai ohonyn nhw, ond mwy o famau a babanod i ofalu amdanyn nhw."

Image caption Dr Mair Edwards

Yn ôl y seicolegydd clinigol, Dr Mair Edwards mae angen helpu rhieni i ymdopi â genedigaethau trawmatig ac annisgwyl.

"Mewn unedau newydd-enedigol, mae rhieni'n wirioneddol bryderus ynghylch eu babanod ac yn aml yn wynebu amgylchedd sy'n ddiethr iddyn nhw," meddai.

"Bydd yr rhan fwyaf o rieni dan bwysau a straen a ddim yn teimlo eu bod yn gallu delio â'r sefyllfa ar lefel emosiynol."

Mae hefyd yn dweud y byddai cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol yn yr unedau yn lleihau'r pwysau ar y nyrsys.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym wedi rhoi llawer o bwyslais ar gefnogi iechyd meddwl a lles teuluoedd sydd â babanod sâl o dan ein gofal, ac mae staff ar bob un o'n tair uned yn gweithio gyda theuluoedd fel mater o drefn i sicrhau bod eu hanghenion iechyd ehangach yn cael eu hasesu ac y gofalir amdanynt.

"Rydym wedi cael llwyddiant mawr wrth ddatblygu grŵp cefnogi cymheiriaid, "Neomates", sy'n darparu fforwm i deuluoedd i rannu profiadau a dulliau ymdopi gyda rhieni eraill ble mae eu babanod wedi bod o dan ein gofal.

"Ers ei lansiad y llynedd, mae dros 450 o bobl wedi elwa o'r cyngor a'r gefnogaeth hon."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol