PRO14: Cheetahs 38-13 Dreigiau

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,
Tian Schoeman

Fe wnaeth maswr Tian Schoeman sgorio 18 pwynt wrth helpu ei dîm i fuddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn y Dreigiau yn Ne Affrica.

Roedd hi'n gêm gyfartal yn yr hanner cyntaf, gyda'r timoedd yn glwm ar 3-3 cyni gais Henco Venter roi'r tîm cartref ar y blaen.

Stori wahanol oedd hi wedi'r egwyl, gyda ceisiau Shaun Venter, Schoeman, Louis Fouche a Rabz Maxwane yn croesi i'r Cheetahs.

Taine Basham gafodd unig gais y Dreigiau, gyda Josh Lewis yn cicio wyth pwynt.