Marwolaeth arwr pêl-droed Lerpwl ac Abertawe

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddaeth gyrfa Tommy Smith i ben yn Abertawe

Bu farw'r pêl-droediwr Tommy Smith yn 74 oed. Roedd yn chwaraewr blaenllaw yn nhîm llwyddiannus Lerpwl yn ystod y 1960au a'r 70au.

Ym mlwyddyn olaf ei yrfa pêl-droed, fe chwaraeodd i Abertawe gan helpu tîm John Toshack i gael dyrchafiad o'r hen drydedd adran.

Yn Anfield roedd Smith yn aelod o'r tîm wnaeth ennill cwpan Ewrop yn 1977, ac fe enillodd Lerpwl y gynghrair yn Lloegr bedair gwaith yn ystod ei gyfnod yno.

Ar ôl gadael Lerpwl symudodd i'r Fetch am gyfnod ar ôl i'w hen gyfaill yn Lerpwl, John Toshack, ei berswadio y dylai chwarae i'r Elyrch.

Dywedodd clwb pêl-droed Abertawe eu bod wedi tristáu yn fawr gan ei farwolaeth : "Fe wnaeth Tommy chwarae 43 gwaith i Abertawe, yn sgorio 2 gôl yn ystod 1978-79.

Mae pawb yng nghlwb pêl-droed Abertawe yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau."