Oriel: Gwobrau Gwerin Cymru 2019

Nos Iau, 11 Ebrill 2019, cafodd seremoni Gwobrau Gwerin Cymru ei chynnal, a hynny am y tro cyntaf.

Roedd Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd yn fwrlwm o gerddoriaeth a hwyl wrth i'r noson ddathlu'r artistiaid gorau o'r sîn werin Gymreig.

Trials of Cato Image copyright John Morgan
Image caption Trials of Cato yn perfformio. Enillodd y band, sydd ag aelodau o ogledd Cymru a Sir Efrog, wobr yr Artist neu Fand Gorau Sy'n Dechrau Dod i'r Amlwg
gwobrau Image copyright John Morgan
Image caption I adlewyrchu tarddiad gwerinol y gerddoriaeth, mae'r gwobrau wedi eu seilio ar hen ganwyllbrenni brwyn fyddai'n cael eu defnyddio i ddal canhwyllau brwyn ers talwm
Gwilym Bowen Rhys
Image caption Yr Artist Unigol Gorau, Gwilym Bowen Rhys, yn dathlu gefn llwyfan
VRi Image copyright John Morgan
Image caption Jordan Price Williams o'r band VRï yn mynd amdani
Pendevig Image copyright John Morgan
Image caption Oedd digon o le ar y llwyfan i holl aelodau'r band Pendevig?
Martyn Joseph
Image caption Martyn Joseph a enillodd y wobr am y Gân Saesneg Wreiddiol Orau am 'Here Come The Young'
Calan Image copyright John Morgan
Image caption Patrick Rimes ac Angharad Jenkins yn perfformio fel rhan o Calan
Dylan Fowler Image copyright John Morgan
Image caption Dylan Fowler, o'r band Alaw, yn derbyn y wobr Trac Offerynnol Gorau am Dawns Soïg / Dawns y Gŵr Marw
Cyflwyno Image copyright John Morgan
Image caption Y dwylo dibynadwy, Frank Hennessy a Lisa Gwilym - cyflwynwyr BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru - oedd yn llywio'r noson. Roedd un o gyflwynwyr eraill Radio Wales, Janice Long, yn cyflwyno un o wobrau'r noson
Calan Image copyright John Morgan
Image caption Roedd Bethan Rhiannon ar ben ei digon wrth dderbyn y wobr am y band gorau, ar ran Calan
VRï Image copyright Glyn Evans
Image caption Enillodd VRï ddwy wobr - am y gân draddodiadol orau a'r albym gorau
Roy Saer Image copyright Elisa Morris
Image caption Cafodd Roy Saer wobr am gyflawniad oes

Rhestr enillwyr Gwobrau Gwerin Cymru 2019

Y Gân Gymraeg Draddodiadol Orau

Ffoles Llantrisant - VRï

Y Gân Saesneg Wreiddiol Orau

Here Come The Young - Martyn Joseph

Y Gân Gymraeg Wreiddiol Orau

Bendigeidfran - Lleuwen

Y Trac Offerynnol Gorau

Dawns Soïg / Dawns y Gŵr Marw - Alaw

Yr Artist / Band Gorau Sy'n Dechrau Dod i'r Amlwg

The Trials of Cato

Yr Artist Unigol Gorau

Gwilym Bowen Rhys

Yr Albwm Gorau

Tŷ ein Tadau - VRï

Y Perfformiad Byw Gorau

Pendevig

Y Grŵp Gorau

Calan

Y Wobr Gwerin

Huw Roberts

Gwobr Cyflawniad Oes

Roy Saer

Hefyd o ddiddordeb: