'Llywodraeth Cymru angen gwneud mwy ar ordewdra'

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er bod Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) wedi croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar strategaeth gordewdra, maen nhw'n dweud nad yw'n mynd yn ddigon pell.

Nod yr ymgynghoriad - Pwysau Iach: Cymru Iach - yw llunio strategaeth i atal neu leihau gordewdra.

Dywedodd llywydd yr RCP yng Nghymru, Dr Gareth Llewelyn: "Nid dewis ffordd o fyw yw gordewdra.

"Mae'n glefyd sy'n cael ei achosi gan anghydraddoldeb iechyd, dylanwadau genetegol a ffactorau cymdeithasol.

"Does dim ateb hawdd i daclo gordewdra, ac fe fydd angen i weinidogion ar draws holl adrannau'r llywodraeth ddangos arweiniad a dod at ei gilydd i helpu pobl i fyw yn iachach.

"Mae'r strategaeth ddrafft yma yn amlwg yn cydnabod natur gymhleth gordewdra, ac fe ddylid croesawu hyn. Ond nid yw'n mynd yn ddigon pell."

Prif argymhellion ymateb RCP

Mae ymateb RCP i'r ymgynghoriad yn nodi nifer o argymhellion:

  • Dylai pob claf sydd â gordewdra gael mynediad at wasanaeth triniaeth sydd â digon o adnoddau, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n cael ei arwain gan glinigwyr;
  • Dylai Llywodraeth Cymru ddal byrddau iechyd i gyfrif am eu cyfrifoldebau i ddarparu llwybr triniaeth gordewdra;
  • Dylai byrddau iechyd benodi uwch-aelod gweithredol i'r bwrdd gyda chyfrifoldeb am ddatblygu gwasanaeth lefel 3;
  • Dylai byrddau iechyd benodi rhywun i arwain ar ordewdra; clinigwr profiadol i ddarparu gwybodaeth a bod yn gyswllt rhwng y bwrdd, cleifion a'r gymuned;
  • Dylai GIG Cymru ddatblygu siartr cleifion sy'n datgan sut y bydd byrddau iechyd a chleifion yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu gwasanaethau gordewdra.

Ychwanegodd Dr Llewelyn: "Er bod e'n newyddion gwych bod gordewdra yn dod yn darged Haen 1 i fyrddau iechyd, mae gordewdra eisoes yn costio miliynau o bunnoedd y flwyddyn i'r GIG Cymru bob blwyddyn, ac yn rhoi cleifion o dan risg o ddatblygu cyflyrau fel diabetes, pwysau gwaed uchel neu strôc.

"Heb fuddsoddiad gan fyrddau iechyd mewn gwasanaethau arbenigol, fe fyddwn ni'n parhau i weld cynnydd mewn ymweliadau ysbyty am gyflyrau sy'n gysylltiedig â gordewdra.

"Dyna pam mae'n siom i mi ein bod yn dal i ddisgwyl i Lywodraeth Cymru egluro sut y maen nhw am helpu pobl sy'n ordew yn barod. Mae'n ymddangos na fu clinigwyr rheng flaen yn rhan o ddrafftio'r ddogfen, ac felly does dim llawer o sylw i'r driniaeth ar gyfer pobl ordew.

"Mae hyn yn rhywbeth sy'n gwanhau'r strategaeth ddrafft. Mae atal gordewdra yn hanfodol, ond nid ar draul y rhai sydd eisoes yn ordew. Mae gan Gymru'r cyfraddau gordewdra plant uchaf yn y DU - mae'n argyfwng eisoes."