Adran Dau: Casnewydd 0-0 Swindon

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Lluniau Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,
Mae Mike Flynn yn dweud ei fod yn parhau'n obeithiol, gyda phum gêm yn weddill o'r tymor

Di-sgôr oedd hi rhwng Casnewydd a Swindon yn eu gêm ail adran ar nos Fawrth.

Fe gollodd yr Alltudion Jamille Matt a Joss Labadie i anafiadau yn ystod yr hanner cyntaf wrth i'r ddau dîm fethu a chreu cyfleoedd.

Er hynny fe lwyddodd gôl-geidwad Casnewydd, Joe Day, rwystro dau ymgais gan Dion Conroy gan sicrhau bod y ddau dîm yn rhannu'r pwyntiau.

Wedi'r gêm dywedodd rheolwr Casnewydd, Mike Flynn: "Gyda chwe gêm yn weddill, a gan ein bod ni pum pwynt ar ei hôl hi a bod gyda ni gêm mewn llaw, rwy'n parhau'n obeithiol.

"Dwi mor falch ein bod ni ond wedi ildio un gôl yn ein naw gêm gartref diwethaf."